RHYBUDD O GYNNIG
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd
oddi wrthi dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Walker Jones
yn cynnig fel a ganlyn:-
Bod
y Cyngor hwn:
a)
yn credu bod y system fudd-daliadau gyfredol yn methu ein dinasyddion ac yn
achosi caledi i lawer o gymunedau yng Ngwynedd;
b)
yn nodi'r cysyniad o Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) lle mae dinasyddion yn
derbyn swm heb fod yn seiliedig ar brofion modd gan y wladwriaeth i dalu costau
byw sylfaenol, a delir i'r holl ddinasyddion yn unigol, waeth beth yw eu statws
cyflogaeth, eu cyfoeth, neu statws priodasol;
c)
yn credu bod angen profi UBI, gan fod gan UBI y potensial i fynd i'r afael â
heriau allweddol megis adferiad ôl-bandemig, anghydraddoldeb, tlodi, cyflogaeth
ansicr, a cholli cymuned trwy:
i) rhoi
gweithlu mwy hyblyg i gyflogwyr wrth roi mwy o ryddid i weithwyr newid eu
swydd;
ii)
gwerthfawrogi gwaith di-dâl, megis gofalu am aelodau'r teulu a gwaith
gwirfoddol;
iii)
cael gwared ar effeithiau negyddol sancsiynau budd-daliadau ac amodoldeb;
iv) rhoi
mwy o adnoddau cyfartal i bobl yn y teulu, y gweithle a'r gymdeithas.
ch) yn nodi gwaith Rhwydwaith Lab UBI wrth
ddatblygu cynigion i beilota profi UBI;
d) yn credu na ddylid mesur llwyddiant peilot
UBI yn unig yn ôl yr effaith ar y nifer sy'n manteisio ar waith â thâl, ond
hefyd yr effaith ar gymunedau a'r hyn y mae'r bobl ynddynt yn ei wneud, sut
maen nhw'n teimlo, a sut maen nhw'n uniaethu ag eraill a’r amgylchedd o'u
cwmpas;
dd) yn credu bod Gwynedd mewn sefyllfa
ddelfrydol i dreialu UBI;
e) yn gofyn i’r Cabinet ymchwilio i’r ymrwymiad
fyddai ei angen ac ystyried a ddylid gwirfoddoli i gydweithio gyda chyrff megis
UBI Lab Cymru;
f) yn penderfynu anfon copi o'r Cynnig hwn at yr Ysgrifennydd Gwladol
dros Waith a Phensiynau, y Canghellor, arweinydd y Blaid yn y Llywodraeth, eu
cymheiriaid ym mhob plaid wleidyddol wrthblaid yn y Senedd, Prif Weinidog Cymru
ac at holl ASau Gwynedd
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu’r
cynnig, sef bod y Cyngor hwn:
a) yn credu bod y system fudd-daliadau
gyfredol yn methu ein dinasyddion ac yn achosi caledi i lawer o gymunedau yng
Ngwynedd;
b) yn nodi'r cysyniad o Incwm
Sylfaenol Cyffredinol (UBI) lle mae dinasyddion yn derbyn swm heb fod yn
seiliedig ar brofion modd gan y wladwriaeth i dalu costau byw sylfaenol, a
delir i'r holl ddinasyddion yn unigol, waeth beth yw eu statws cyflogaeth, eu
cyfoeth, neu statws priodasol;
c) yn credu bod angen profi
UBI, gan fod gan UBI y potensial i fynd i'r afael â heriau allweddol megis
adferiad ôl-bandemig, anghydraddoldeb, tlodi, cyflogaeth ansicr, a cholli
cymuned trwy:
i) rhoi gweithlu mwy hyblyg i gyflogwyr wrth
roi mwy o ryddid i weithwyr newid eu swydd;
ii) gwerthfawrogi gwaith di-dâl, megis gofalu
am aelodau'r teulu a gwaith gwirfoddol;
iii) cael gwared ar effeithiau negyddol
sancsiynau budd-daliadau ac amodoldeb;
iv) rhoi mwy o adnoddau cyfartal i bobl yn y
teulu, y gweithle a'r gymdeithas.
ch) yn nodi gwaith Rhwydwaith
Lab UBI wrth ddatblygu cynigion i beilota profi UBI;
e) yn credu na ddylid mesur
llwyddiant peilot UBI yn unig yn ôl yr effaith ar y nifer sy'n manteisio ar
waith â thâl, ond hefyd yr effaith ar gymunedau a'r hyn y mae'r bobl ynddynt yn
ei wneud, sut maen nhw'n teimlo, a sut maen nhw'n uniaethu ag eraill a’r amgylchedd
o'u cwmpas;
f) yn credu bod Gwynedd mewn
sefyllfa ddelfrydol i dreialu UBI;
g) yn gofyn i’r Cabinet
ymchwilio i’r ymrwymiad fyddai ei angen ac ystyried a ddylid gwirfoddoli i
gydweithio gyda chyrff megis UBI Lab Cymru;
h) yn penderfynu anfon
copi o'r Cynnig hwn at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, y
Canghellor, arweinydd y Blaid yn y Llywodraeth, eu cymheiriaid ym mhob plaid
wleidyddol wrthblaid yn y Senedd, Prif Weinidog Cymru ac at holl ASau Gwynedd.
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd
Elin Walker Jones o dan Adran
4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i
eiliwyd:-
“Bod y Cyngor hwn:
a) yn credu bod y system fudd-daliadau gyfredol yn
methu ein dinasyddion ac yn achosi caledi i lawer o gymunedau yng Ngwynedd;
b) yn nodi'r cysyniad o Incwm Sylfaenol Cyffredinol
(UBI) lle mae dinasyddion yn derbyn swm heb fod yn seiliedig ar brofion modd
gan y wladwriaeth i dalu costau byw sylfaenol, a delir i'r holl ddinasyddion yn
unigol, waeth beth yw eu statws cyflogaeth, eu cyfoeth, neu statws priodasol;
c) yn credu bod angen profi UBI, gan fod gan UBI y
potensial i fynd i'r afael â heriau allweddol megis adferiad ôl-bandemig, anghydraddoldeb, tlodi, cyflogaeth ansicr, a
cholli cymuned trwy:
i) rhoi
gweithlu mwy hyblyg i gyflogwyr wrth roi mwy o ryddid i weithwyr newid eu
swydd;
ii) gwerthfawrogi gwaith di-dâl, megis gofalu am aelodau'r
teulu a gwaith gwirfoddol;
iii) cael gwared ar effeithiau negyddol sancsiynau
budd-daliadau ac amodoldeb;
iv) rhoi mwy o adnoddau cyfartal i bobl yn y teulu, y
gweithle a'r gymdeithas.
ch) yn nodi gwaith Rhwydwaith Lab UBI wrth ddatblygu cynigion i beilota profi UBI;
d) yn credu na ddylid mesur llwyddiant peilot UBI yn
unig yn ôl yr effaith ar y nifer sy'n manteisio ar waith â thâl, ond hefyd yr
effaith ar gymunedau a'r hyn y mae'r bobl ynddynt yn ei wneud, sut maen nhw'n
teimlo, a sut maen nhw'n uniaethu ag eraill a’r amgylchedd o'u cwmpas;
dd) yn credu bod Gwynedd mewn sefyllfa
ddelfrydol i dreialu UBI;
e) yn gofyn i’r Cabinet ymchwilio i’r ymrwymiad fyddai
ei angen ac ystyried a ddylid gwirfoddoli i gydweithio gyda chyrff megis UBI
Lab Cymru;
f) yn penderfynu anfon
copi o'r Cynnig hwn at yr
Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau,
y Canghellor, arweinydd y Blaid yn y Llywodraeth,
eu cymheiriaid ym mhob plaid wleidyddol
wrthblaid yn y Senedd, Prif Weinidog
Cymru ac at holl ASau Gwynedd.”
Yn ystod y drafodaeth, cefnogwyd y cynnig gan aelodau ar y sail:-
·
Bod UBI yn
ddatrysiad real iawn i helpu pobl allan o dlodi a chynorthwyo’r economi, tra’n lleihau’r
anghydraddoldeb amlwg o fewn ein cymdeithas, sydd wedi dyfnhau yn ystod
argyfwng y pandemig.
·
Bod UBI hefyd yn arf
sy’n gallu cael gwared ar y stigma a’r straen ar bobl sy’n hawlio
budd-daliadau, gan fod pawb yn derbyn yr un faint, a dylai pawb gael eu talu
ddigon i ofalu amdanynt eu hunain, a’u teuluoedd, yn arbennig mewn cyfnod o
argyfwng fel hwn.
·
Er y cydnabyddid bod
yna heriau a chwestiynau ynglŷn ag incwm sylfaenol, bod nifer o wahanol
fodelau i ddod â hyn yn ei flaen, a nifer ohonynt yn cael eu treialu mewn
gwahanol lefydd.
· Bod yr achos dros dreialu UBI wedi’i gryfhau yn ystod cyfnod y pandemig, ac er bod yna lawer o gynlluniau i helpu pobl yn ariannol, roedd llawer o bobl hunangyflogedig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 16