7 EGWYDDORION ECONOMI YMWELD CYNALIADWY GWYNEDD PDF 468 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cytunwyd ar Egwyddorion Economi Cynaliadwy Gwynedd ar sail
drafft er mwyn cychwyn ar y broses ymgynghori gyda trigolion a busnesau
Gwynedd.
Cytunwyd i barhau trafodaethau ar strwythur i weithredu'r
egwyddorion i'r dyfodol gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ac unrhyw bartner
perthnasol arall.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth
Thomas.
PENDERFYNIAD
Cytunwyd ar
Egwyddorion Economi Cynaliadwy Gwynedd ar sail drafft er mwyn cychwyn ar y
broses ymgynghori gyda trigolion a busnesau Gwynedd.
Cytunwyd i
barhau trafodaethau ar strwythur i weithredu'r egwyddorion i'r dyfodol gyda
Pharc Cenedlaethol Eryri ac unrhyw bartner perthnasol arall.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r penderfyniad gan bwysleisio fod yr egwyddorion ar sail
drafft er mwyn cychwyn ymgynghori gyda thrigolion a busnesau. Ategwyd fod
cyfnod Covid-19 wedi atgyfnerthu’r angen i greu egwyddorion yn y maes
Twristiaeth. Nodwyd y brif egwyddor oedd creu Economi Ymweld er budd a lles
pobl Gwynedd. Esboniwyd y trafodaethau sydd wedi eu cynnal er mwyn creu'r
egwyddorion drafft a oedd yn cynnwys gweithdai gydag aelodau, trafodaethau gyda
Chroeso Cymru a’r sector twristiaeth. Ychwanegwyd y bydd trafodaethau pellach
yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Mynegwyd fod y cam hwn
yn gam pwysig i greu perthynas newydd o fewn y maes.
¾ Nodwyd fod y gwaith hwn
yn holl bwysig gan fod y maes mor bwysig i’r ardal.
¾ Esboniwyd fod yr
egwyddorion yn rhai da a clir ond ei fod yn holl bwysig fod cymunedau nid yn
unig busnesau yn rhan o’r drafodaeth. Ychwanegwyd yr angen i’r trafodaethau
gyda chymunedau gael ei chynnal ar sail yr 13 ardal sydd wedi eu hamlygu gan
fod gofynion pob ardal am fod yn gwbl wahanol. Pwysleisiwyd yr angen i’r
trafodaethau gael ei cynnal ar y cyd rhwng cymunedau a’r busnesau fel bod y
deialog yn cael ei greu yn ogystal ac
rhannu profiadau.
¾ Mynegwyd y bydd Uwch
Gynhadledd yn cael ei gynnal yn yr Hydref a fydd yn cynnwys busnesau a
chymunedau ble fydd modd cyflwyno’r egwyddorion ar ei ffurf olaf ac i greu
camau gweithredu.
¾ Nodwyd cefnogaeth i’r
egwyddorion gan fod angen sicrhau fod budd i’r cymunedau drwy dwristiaeth.
¾ Pwysleisiwyd y bydd pob
ardal yn rhan o’r drafodaeth, ac nid y cymunedau ble mae nifer uchel o
dwristiaeth.
Awdur: Roland Evans