Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/03/2021 - Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd (eitem 5)

5 CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL (CCA) I'W MABWYSIADU: CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID pdf eicon PDF 276 KB

I ystyried a chymeradwyo’r ymatebion arfaethedig i sylwadau am y Canllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusterau a llety i dwristiaid a mabwysiadu’r Canllaw.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a mabwysiadu’r Canllaw.

 

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad gan Heledd Jones oedd yn gosod allan y camau hyd yma yn ymwneud a datblygu’r CCA, yn cynnwys yr ymgynghoriadau blaenorol. Nodwyd fod y Gwasanaeth wedi derbyn 15 sylw dilys mewn perthynas â’r CCA. Esboniwyd mai dim ond rhannau penodol o’r CCA oedd yn destun ymgynghoriad yn ystod y cyfnod yma a derbyniwyd 8 sylw na ystyriwyd yn ddilys gan eu bod yn ymwneud a rhannau o’r CCA oedd ddim yn destun yr ymgynghoriad cyhoeddus. Esboniwyd y sylwadau oedd wedi ei dderbyn ag ymateb y Gwasanaeth i’r sylwadau yn cynnwys, ble yn briodol newidiadau oedd y Gwasanaeth yn cynnig ei wneud i’r CCA mewn ymateb i rai o’r sylwadau.

 

Materion a Godwyd

 

Dim materion yn codi

 

Penderfyniad

 

Cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau am y Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid