5 CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL (CCA) I'W MABWYSIADU: CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID PDF 276 KB
I ystyried a chymeradwyo’r ymatebion arfaethedig i sylwadau am y
Canllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusterau a llety i dwristiaid a mabwysiadu’r
Canllaw.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a
mabwysiadu’r Canllaw.
Cofnod:
Cafwyd cyflwyniad gan Heledd Jones oedd yn gosod allan y camau hyd yma yn ymwneud a datblygu’r CCA, yn cynnwys yr ymgynghoriadau blaenorol. Nodwyd fod y Gwasanaeth wedi derbyn 15 sylw dilys mewn perthynas â’r CCA. Esboniwyd mai dim ond rhannau penodol o’r CCA oedd yn destun ymgynghoriad yn ystod y cyfnod yma a derbyniwyd 8 sylw na ystyriwyd yn ddilys gan eu bod yn ymwneud a rhannau o’r CCA oedd ddim yn destun yr ymgynghoriad cyhoeddus. Esboniwyd y sylwadau oedd wedi ei dderbyn ag ymateb y Gwasanaeth i’r sylwadau yn cynnwys, ble yn briodol newidiadau oedd y Gwasanaeth yn cynnig ei wneud i’r CCA mewn ymateb i rai o’r sylwadau.
Materion a Godwyd
Dim materion yn codi
Penderfyniad
Cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau am y Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid