7 STRATEGAETH YNNI GOGLEDD CYMRU DDRAFFT PDF 577 KB
Adroddiad gan Henry
Aron, Rheolwr Rhaglen Ynni a Rhys Horan, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Cadarnhau Strategaeth Ynni Gogledd Cymru ar
ffurf drafft, a chadarnhau cefnogaeth y Bwrdd i ddechrau ar y gwaith paratoadol
ar gyfer y cynllun gweithredu.
2. Cytuno i dderbyn adroddiad pellach ar y
cynllun gweithredu drafft.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) a Rhys Horan (Gwasanaeth Ynni
Llywodraeth Cymru).
PENDERFYNWYD
(1) Cadarnhau Strategaeth Ynni Gogledd Cymru ar
ffurf drafft, a chadarnhau cefnogaeth y Bwrdd i ddechrau ar y gwaith paratoadol
ar gyfer y cynllun gweithredu.
(2) Cytuno i dderbyn adroddiad pellach ar y
cynllun gweithredu drafft.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae’r
strategaeth bresennol yn darparu gweledigaeth lefel-uchel, meysydd
blaenoriaeth, gwaith modelu ynni ynghyd â dadansoddiad economaidd fydd yn
cyfrannu at ddatblygu'r cynllun gweithredu arfaethedig.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn cyflwyno Strategaeth Ynni Gogledd Cymru ar ffurf drafft i’w
chadarnhau, ennyn cefnogaeth ar gyfer y camau nesaf arfaethedig, ac arddangos
bod y Strategaeth yn cyd-fynd â’r ymrwymiad rhanbarthol i her newid hinsawdd.
Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Nodwyd y byddai Bwrdd Rhaglen Ynni Carbon Isel y
Bwrdd Uchelgais yn rhan o hyn, a bod pob un o’r partneriaid wedi cyfrannu at y
siwrne hyd yma.
·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau nad oedd hyn
yn tynnu oddi ar waith y Bwrdd Uchelgais, oherwydd yr angen i gyflawni ar
gynlluniau’r Bid Twf.
·
Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y £15bn o
wariant oedd ei angen i gyflawni’r weledigaeth ynni yn gyfuniad o fuddsoddiad
sector breifat a chyhoeddus. Nid oedd yn
glir eto beth fyddai’r rhaniad, ond roedd hefyd yn cynnwys gwariant gan
unigolion, e.e. ar gerbydau trydan, pympiau gwresogi, ac ati.
·
Croesawyd y ddogfen, a nodwyd ei bod yn gosod
allan yn glir rai o’r materion cyfredol, a’r opsiynau ar gyfer y dyfodol
hefyd.
·
Croesawyd y cyfeiriad at y cyfraniad y gall morlyn
llanw ei wneud, a holwyd a roddid sylw i fanteision ehangach na’r manteision
cynhyrchu ynni yn unig. Mewn ymateb,
eglurwyd na roddwyd sylw llawn i’r holl fanteision yn y ciplun a roddwyd, ond
roedd y manteision economaidd, yn nhermau creu swyddi, ayb, wedi’u hadnabod, ac
wedi’u rhannu. Wrth fynd ymlaen, byddai
hyn yn bwysig, ond nid oedd y manylder ar gael eto.