Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 8)

8 EGWYDDORION MASNACHOL AR GYFER CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 390 KB

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.

Penderfyniad:

1.  Cytuno ar yr Egwyddorion Masnachol fel y nodir yn adran 5 yr adroddiad.

2.  Nodi y bydd y sail resymegol ar gyfer mabwysiadu safbwynt masnachol penodol wedi'i nodi'n glir law yn llaw ag achosion busnes y prosiectau er mwyn i'r Bwrdd eu hystyried.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

(1)     Cytuno ar yr Egwyddorion Masnachol fel y nodir yn adran 5 o’r adroddiad.

(2)     Nodi y bydd y sail resymegol ar gyfer mabwysiadu safbwynt masnachol penodol wedi’i nodi’n glir law yn llaw ag achosion busnes y prosiectau er mwyn i’r Bwrdd eu hystyried.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Darparu llwyfan negodi clir ar gyfer y Swyddfa Rheoli Portffolio.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn cyflwyno cyfres o Egwyddorion Masnachol a fyddai, o’u mabwysiadu, yn cael eu defnyddio gan y Swyddfa Rheoli Portffolio i negodi cyfleoedd masnachol sy’n ymwneud â phrosiectau’r Cynllun Twf.

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y £100,000 ar gyfer cefnogaeth gyfreithiol allanol y cyfeiriwyd ato yn eitem 5 uchod yn adlewyrchu’r ffaith y byddai yna waith cytundebol cymhleth, a manwl ar adegau, o gwmpas y cytundebau ariannu’n gyffredinol, a bod y gefnogaeth gyfreithiol allanol y cyfeirir ati ym mharagraff 6.1 o’r adroddiad yn un elfen o hyn.  Eglurwyd ymhellach nad oedd y Bwrdd Uchelgais yn ymrwymo i wariant uniongyrchol drwy gymeradwyo’r adroddiad hwn.  Er hynny, roedd yna oblygiadau ariannol i hyn, ond yn debygol o fod yn bositif i’r Bwrdd yn nhermau’r gallu i fanteisio ar brosiectau masnachol er mwyn cael rhyw fath o ddychweliad.  Fel roedd Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya wedi nodi yn ei sylwadau ar yr adroddiad, nid oedd hynny’n eglur eto, ac roedd angen gwneud mwy o waith er mwyn adnabod y ffordd ymlaen o ran hynny.

·         Nodwyd ei bod yn anodd deall hyn i gyd yn iawn nes gweld gwir enghreifftiau, ond bod yr egwyddorion yn ymddangos yn rhai teg.

·         Awgrymwyd y gallai Egwyddor Fasnachol 1 fod yn anodd ei diffinio o safbwynt gwahaniaethu rhwng adenillion masnachol o ganlyniad i’r buddsoddiad hwn ac adenillion masnachol o ganlyniad i rywbeth y byddai corff yn ei wneud beth bynnag.  Derbynnid, fodd bynnag,  nad oedd y manylder ar gael ar hyn o bryd.