8 EGWYDDORION MASNACHOL AR GYFER CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU PDF 390 KB
Adroddiad gan Hedd
Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.
Penderfyniad:
1. Cytuno ar yr Egwyddorion Masnachol fel y nodir yn adran
5 yr adroddiad.
2. Nodi y bydd y sail resymegol ar gyfer mabwysiadu safbwynt masnachol penodol wedi'i nodi'n glir law yn llaw ag
achosion busnes y prosiectau er mwyn
i'r Bwrdd eu hystyried.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).
PENDERFYNWYD
(1) Cytuno ar yr Egwyddorion Masnachol fel y
nodir yn adran 5 o’r adroddiad.
(2) Nodi y bydd y sail resymegol ar gyfer
mabwysiadu safbwynt masnachol penodol wedi’i nodi’n glir law yn llaw ag
achosion busnes y prosiectau er mwyn i’r Bwrdd eu hystyried.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Darparu llwyfan
negodi clir ar gyfer y Swyddfa Rheoli Portffolio.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn cyflwyno cyfres o Egwyddorion Masnachol a fyddai, o’u
mabwysiadu, yn cael eu defnyddio gan y Swyddfa Rheoli Portffolio i negodi
cyfleoedd masnachol sy’n ymwneud â phrosiectau’r Cynllun Twf.
Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y £100,000 ar
gyfer cefnogaeth gyfreithiol allanol y cyfeiriwyd ato yn eitem 5 uchod yn adlewyrchu’r
ffaith y byddai yna waith cytundebol cymhleth, a manwl ar adegau, o gwmpas y
cytundebau ariannu’n gyffredinol, a bod y gefnogaeth gyfreithiol allanol y
cyfeirir ati ym mharagraff 6.1 o’r adroddiad yn un elfen o hyn. Eglurwyd ymhellach nad oedd y Bwrdd Uchelgais
yn ymrwymo i wariant uniongyrchol drwy gymeradwyo’r adroddiad hwn. Er hynny, roedd yna oblygiadau ariannol i
hyn, ond yn debygol o fod yn bositif i’r Bwrdd yn nhermau’r gallu i fanteisio
ar brosiectau masnachol er mwyn cael rhyw fath o ddychweliad. Fel roedd Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod
Lletya wedi nodi yn ei sylwadau ar yr adroddiad, nid oedd hynny’n eglur eto, ac
roedd angen gwneud mwy o waith er mwyn adnabod y ffordd ymlaen o ran hynny.
·
Nodwyd ei bod yn anodd deall hyn i gyd yn iawn
nes gweld gwir enghreifftiau, ond bod yr egwyddorion yn ymddangos yn rhai teg.
·
Awgrymwyd y gallai Egwyddor Fasnachol 1 fod yn anodd
ei diffinio o safbwynt gwahaniaethu rhwng adenillion masnachol o ganlyniad i’r
buddsoddiad hwn ac adenillion masnachol o ganlyniad i rywbeth y byddai corff yn
ei wneud beth bynnag. Derbynnid, fodd
bynnag, nad oedd y manylder ar gael ar
hyn o bryd.