ETHOL IS-GADEIRYDD
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn Is-gadeirydd am 2021/22.
Cofnod:
Cynigiwyd ac eiliwyd dau enw
am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Elwyn Jones a’r Cynghorydd Peter Read.
PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Elwyn
Jones yn is-gadeirydd am
2021/22.
Darllenodd y Cynghorydd Elwyn Jones ddatganiad
yn derbyn y swydd o Is-gadeirydd Cyngor
Gwynedd am 2021/22.
Eglurodd y Swyddog Monitro, gan fod yr
Is-gadeirydd yn bresennol o bell, y rhoddid trefniadau mewn lle iddo arwyddo’r
datganiad ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.