13 ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 509 KB
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
(a) Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar
gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn yr atodiad i’r adroddiad i’r
Cyngor, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r hyn a nodir yn yr
atodiad.
(b) Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth Democratiaeth wneud
penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â
dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.
(c) Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail
cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:
Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi Grŵp Annibynnol
Pwyllgor Craffu Cymunedau Grŵp Plaid Cymru
Pwyllgor Craffu Gofal Grŵp Annibynnol
COFNODION:
Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth adroddiad ar yr
adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.
Nododd y Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth fod y Cynghorydd
Freya Bentham, Aelod Harlech / Talsarnau,
wedi cyflwyno ei hymddiswyddiad ers cyhoeddi’r adroddiad, ac y bwriedid adrodd ymhellach ar unrhyw newid i’r
cydbwysedd gwleidyddol yn sgil hynny
i’r Cyngor ym mis Gorffennaf, yn dilyn cynnal
isetholiad.
Nododd hefyd y cydnabyddid bod y fformiwla dyrannu seddau ar bwyllgorau yn gymhleth, ond
bod hyn yn drefn statudol oedd yn cael
ei gweithredu’n gyson ar draws cynghorau Cymru. Gan hynny, roedd
y Tîm Democratiaeth a’r Tîm Cyfathrebu yn y broses o gynhyrchu fideo byr er
mwyn cynorthwyo pawb i ddeall
y drefn yn well.
PENDERFYNWYD
(a) Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn
yr atodiad i’r cofnodion hyn,
ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r
hyn a nodir yn yr atodiad.
(b) Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth
Gwasanaeth Democratiaeth wneud penodiadau
i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r
grwpiau gwleidyddol.
(c) Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Grŵp
Annibynnol
Pwyllgor Craffu Cymunedau Grŵp Plaid Cymru
Pwyllgor Craffu Gofal Grŵp Annibynnol