10 ADRODDIAD BLYNYDDOL GAN Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH PDF 572 KB
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth ei adroddiad blynyddol
ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth yng nghyswllt
cefnogaeth i aelodau.
Diolchodd y Pennaeth i holl
aelodau’r pwyllgor, ac i swyddogion y Gwasanaeth
Democratiaeth ac Iaith, am eu
cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cyfeiriodd yn arbennig
at ymdrechion arwrol Arweinydd a staff y Tîm Cyfieithu
i sicrhau cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd rhithiol, nid yn
unig o fewn y Cyngor hwn, ond ar draws y rhanbarth hefyd gyda sefydliadau cyhoeddus eraill. Roedd gwaith y swyddogion Technoleg Gwybodaeth wedi bod yn allweddol
hefyd, ac wedi galluogi i bawb
gymryd y dechnoleg mor ganiataol bellach. Diolchodd hefyd i swyddogion
y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu’r
Sefydliad am gydgordio’r hyfforddiant, ac i aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth a’r Cynghorwyr Dewi Owen ac Anne Lloyd Jones fel cadeiryddion y pwyllgor dros gyfnod
yr adroddiad dan sylw.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau
ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Mynegwyd pryder y
gallai’r gost ychwanegol o weithio’n rhithiol o gartref fod yn rhwystr i rai
sefyll etholiad i fod yn gynghorydd, ac y dylid sicrhau ein bod yn parhau i fod
yn gyngor cynhwysol. Mewn ymateb, nodwyd
bod y Gwasanaeth yn fyw i’r bygythiad hwn, ac y byddai’n destun trafodaeth
bellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ym Mehefin.
·
Holwyd a roddwyd
ystyriaeth i gynnig gwasanaeth cyfieithu i awdurdodau eraill, fel ffordd o ddod
ag incwm ychwanegol i goffrau’r Cyngor.
Mewn ymateb, eglurwyd bod y Gwasanaeth Cyfieithu eisoes yn darparu gwasanaeth
cyfieithu i nifer o sefydliadau eraill.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd y gwasanaeth hefyd wedi cynorthwyo
nifer o awdurdodau lleol eraill, ayb, er mwyn cyflwyno systemau sy’n caniatáu
cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd rhithiol.
Roedd incwm yn dod i mewn eisoes gan sefydliadau am y gwasanaeth
cyfieithu a ddarperir gan Wynedd, ond roedd lle i ystyried ymestyn hynny
ymhellach.
·
Nodwyd bod Cyngor
Gwynedd wedi bod yn flaengar yn symud i gynnal cyfarfodydd rhithiol yn
ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf, a’i fod yn esiampl i gyrff eraill ar draws
Cymru.
·
Nodwyd bod cynnal
cyfarfodydd yn rhithiol yn arbed llawer o gostau teithio i’r Cyngor ac amser
teithio i’r aelodau, ac y dylid ystyried hyn fel y ffordd ymlaen i’r dyfodol.
·
Mynegwyd y farn y
dylai’r Pwyllgor Cynllunio gyfarfod wyneb yn wyneb er mwyn cynnal ei statws fel
pwyllgor teg a chadarn. Nodwyd hefyd na
fu’n bosib’ i’r aelodau fynd ar ymweliadau safle, oedd mor bwysig o safbwynt
gwneud y penderfyniadau cywir ar geisiadau cynllunio.
· Mynegwyd y farn y dylai’r Cyngor llawn a’r Pwyllgorau Craffu gyfarfod wyneb yn wyneb, ond y dylid rhoi’r dewis i aelodau fynychu cyfarfodydd eraill yn rhithiol neu wyneb yn wyneb. Mewn ymateb, eglurwyd bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ymgorffori’r drefn rithiol o weithio, yn ogystal â hybrid a chyffredin, ac y byddai’n ofynnol i’r Cyngor fabwysiadu polisi ynglŷn â’r drefn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10