Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 12)

12 Cais Rhif C20/0674/41/MG - Cae Bodlondeb, ger Ael y Bryn, Chwilog, LL53 6SH pdf eicon PDF 334 KB

Cais ar gyfer materion a gadwyd yn ol a gwybodaeth draenio a datblygu cam wrth cam mewn cyswllt a chaniatad cynllunio amlinellol C16/1363/41/AM ar gyfer codi 9 ty sy'n cynnwys 3 fforddiadwy a ffordd mynediad.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais er mwyn cytuno ar y manylion  terfynol y cylfat a derbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned Draenio Tir

Amodau priffyrdd

Nodyn fod amodau 7 a 10 o’r caniatâd amlinellol sy’n ymwneud â materion draenio a datblygu gam wrth gam wedi eu rhyddhau fel rhan o’r caniatâd yma.

Nodyn SUDS

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

a)    Eglurodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu y caniatawyd y cais amlinellol gyda llunwedd, graddfa, golwg a thirweddu wedi ei gadw yn ôl, gyda’r cais gerbron ar gyfer asesu'r materion hynny ynghyd a materion draenio a datblygu cam wrth gam sy’n destun amodau rhif 7 a 9 o’r caniatâd amlinellol. Ategwyd bod  egwyddor y bwriad ynghyd a’r materion yn ymwneud gyda’r fynedfa eisoes wedi eu caniatáu o dan y cais amlinellol.

Adroddwyd fod y cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais gerbron yn cadarnhau’r fynedfa yn unol â’r hyn a ganiatawyd o dan y caniatâd amlinellol. Ymddengys llunwedd y safle bod  bwriad i ddarparu ffordd stad oddi ar y fynedfa sy’n fforchio; ynghyd a chodi 6 annedd ar wahân ar ochr chwith y ffordd stad a theras o 3 annedd fforddiadwy ar yr ochr dde. Mae’r rhan yma o’r datblygiad yn cynnwys 6 annedd 4 gwely farchnad agored a 3 annedd fforddiadwy 3 gwely.  Nodwyd fod y cais amlinellol yn destun cytundeb 106 oedd yn sicrhau’r elfen fforddiadwy ynghyd a thaliadau ar gyfer llecynnau agored ac addysg. Roedd y caniatâd amlinellol yn nodi math penodol o gymysgedd dai (6 4 gwely farchnad agored a 3 fforddiadwy 3 gwely) ac mae’r elfennau yma eisoes wedi eu caniatáu drwy’r cais amlinellol.

O ganlyniad, yr unig faterion a aseswyd ar gyfer y cais yma oedd materion dyluniad, llunwedd, graddfa a thirweddu. Adroddwyd bod llunwedd y bwriad gerbron yn cyd-fynd gyda’r hyn a gynigiwyd ar adeg y cais amlinellol, gyda chynllun safle bwriedig yn cadarnhau fod y datblygiad yn dderbyniol o ran effaith ar weddill tai’r datblygiad.

Cyfeiriwyd at sylwadau oedd wedi eu derbyn gan drigolion lleol, yr Aelod Lleol ynghyd â’r Cyngor Cymuned ynglŷn â materion draenio presennol ar y safle sy’n effeithio tai cyfagos. Nodwyd bod swyddogion o’r Uned Draenio yn ymwybodol o’r sefyllfa ac wedi ymweld â’r safle. Yn ogystal, bydd angen dylunio’r system gwaredu dŵr wyneb er mwyn cydymffurfio â gofynion System Draenio Gynaliadwy (SuDS).

Mae sylwadau wedi eu derbyn gan drigolion lleol, yr Aelod Lleol ynghyd a’r Cyngor Cymuned ynglŷn â materion draenio presennol ar y safle ac sy’n effeithio tai cyfagos. Mae swyddogion o’r Uned Draenio yn ymwybodol o’r sefyllfa ac wedi ymweld â’r safle. Yn ogystal, bydd angen dylunio’r system gwaredu dŵr wyneb er mwyn cydymffurfio a gofynion System Draenio Gynaliadwy (SuDS).

Amlygwyd, yn wahanol i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad,  mai’r argymhelliad fyddai Dirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais er mwyn cytuno ar fanylion  terfynol y cylfat a derbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned Draenio Tir.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol

·         Bod angen parhau gyda thrafodaethau yn ymwneud a’r cylfyrt

·         Angen osgoi llifogydd i res o dai cyfagos

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatau y cais

PENDERYNWYD: Dirprwyo’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12