Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 9)

9 Cais Rhif C20/1065/22/AC - Cefn Graianog, Llanllyfni, Caernarfon, LL54 6SY pdf eicon PDF 598 KB

Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i amrywio amod 1 ar ganiatad cynllunio C10D/0487/34/MW i ymestyn hyd oes chwarela a gweithrediadau prosesu cysylltiol am bedair mlynedd ychwanegol i ganiatau cwblhau’r gwaith mwynau gyda blwyddyn ychwanegol ar gyfer cwblhau adfer.

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Owain Williams a’r Cynghorydd Craig ab Iago

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C10D/0487/34/MW i ymestyn oes y gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol:

 

Bydd y gwaith o echdynnu, prosesu a dosbarthu mwynau yn dod i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024 ac erbyn hynny bydd yr holl weithfeydd a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle; bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2025.

 

Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol o fewn eu cylch gwaith.

 

Amodau cynllunio fel y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau rheoli a ganlyn;

 

·        Hyd y cyfnod gweithio,

·        Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir, adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys,

·        Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd;

·        Oriau Gweithio,

·        Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus,

·        Ymdrin â phridd a hwsmonaeth,

·        Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr lleol,

·        Adfer i ddefnydd cymysg amaethyddol a chadwraeth natur,

·        Ail-adfer ffiniau caeau,

·        Lliniaru a chofnodi archeolegol,

·        Mesurau ôl-ofal a chyfarfodydd blynyddol ar gyfer defnyddiau amaethyddol,

rheoli bioamrywiaeth a rheoli rhywogaethau planhigion anfrodorol,

·        Rheolaethau llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un modd ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod larymau sŵn gwyn i'w gosod ar beiriannau'r gwaith yn y wyneb gweithio.

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y cynnig dan sylw yn gofyn am ymestyn y cyfnod o amser hyd 31 Rhagfyr 2024 i barhau gyda'r gweithrediadau mwynau yn Fferm Graianog. Eglurodd y  byddai gweithredu hyn yn sicrhau dad-sterileiddiad y gronfa fwynau ond hefyd, cwblhau'r gwaith o adfer y safle yn unol â'r cynllun gwaith cymeradwy a darparu seilwaith ategol i gefnogi'r cynigion i gaffael a gweithio mwynau o'r estyniad i'r chwarel. Nid yw'r cynnig yn cynnwys ymestyn ôl-troed y gweithrediad mwynau ei hun, ond yn hytrach, ymestyn y cyfnod o amser am 4 blynedd arall. Bydd gweithgareddau peiriannau ar y safle, prosesu, cludiant a'r gwaith o gloddio'r mwyn wedi'i gynnwys yn llwyr oddi mewn i ffiniau'r safle presennol ac yn unol â thelerau ac amodau'r cais cynllunio cyfredol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol nad oedd ganddo wrthwynebiad i ymestyn y cyfnod amser

 

c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

·         Bod y gwaith adfer hyd yma wedi bod yn arbennig o ddagobaith y bydd y waliau cerrig ar porfeydd o’r un safon i’r dyfodol

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C10D/0487/34/MW i ymestyn oes y gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol:

 

Bydd y gwaith o echdynnu, prosesu a dosbarthu mwynau yn dod i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024 ac erbyn hynny bydd yr holl weithfeydd a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle; bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2025.

 

Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol o fewn eu cylch gwaith.

 

Amodau cynllunio fel y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau rheoli a ganlyn;

·         Hyd y cyfnod gweithio,

·         Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir, adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys,

·         Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd;

·         Oriau Gweithio,

·         Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus,

·         Ymdrin â phridd a hwsmonaeth,

·         Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr lleol,

·         Adfer i ddefnydd cymysg amaethyddol a chadwraeth natur,

·         Ail-adfer ffiniau caeau,

·         Lliniaru a chofnodi archeolegol,

·         Mesurau ôl-ofal a chyfarfodydd blynyddol ar gyfer defnyddiau amaethyddol, rheoli bioamrywiaeth a rheoli rhywogaethau planhigion anfrodorol,

·         Rheolaethau llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un modd ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod larymau sŵn gwyn i'w gosod ar beiriannau'r gwaith yn y wyneb gweithio.