Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 10)

10 Cais Rhif C19/0746/46/LL - Trefgraig Isaf, Rhydlios, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8LR pdf eicon PDF 313 KB

Gosod 8 carafan symudol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu gydag amodau

 

1.         Amser  

2.         Unol a’r cynllun diwygiedig

3.         Cyfyngu niferoedd a defnydd a dim pebyll i’w gosod o fewn safle’r cais

4.         Cynllun arwyddion dwyieithog

 

Nodyn:

 

Angen sicrhau trwydded briodol

 

Cofnod:

a)            Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais gwreiddiol a gyflwynwyd yn cynnwys gosod 10 carafán deithiol dymhorol a phedair pabell ar safle gwersylla teithiol presennol ar gyfer y Clwb Carafanau a Gwersylla (mae’r dystysgrif ar gyfer 5 carafán neu gerbyd “motorhome” a hyd at 10 pabell). Adroddwyd bod cynllun diwygiedig wedi ei dderbyn yn nodi bwriad i dynnu’r elfen gwersylla yn gyfan gwbl o’r bwriad a lleihau nifer y carafanau o 10 i 8.

 

Cadarnhawyd mai’r  bwriadar oedd lleoli 8 carafán symudol ar y safle. Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored ag o fewn dynodiadau Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Mae mynediad at y safle ar hyd ffordd ddi-ddosbarth gymharol gul a throellog gyda’r lleoliad oddeutu milltir o’r gyffordd agosaf gyda phriffordd y B4413. Ategwyd bod y safle presennol yn dir gwyrdd gyda gwrychoedd yn ei amgylchynu sydd yn ei wneud yn guddiedig o fewn yr ardal gyfagos.

 

Ystyriwyd y byddai cyfyngu defnydd y safle i 8 carafán deithiol yn unig yn lleihau defnydd y safle a thrwy hynny, yr effaith yn lleol.  Wedi asesu’r datblygiad yn ei ffurf ddiwygiedig ystyriwyd bod y bwriad bellach yn dderbyniol.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol

·         Bod y safle wedi hen sefydlu,

·         Wedi ei dirlunio yn dda ac yn cael ei reoli yn dda

·         Byddai’r bwriad yn lleihau tagfeydd yn yr ardal

·         Croesawu’r addasiadau

·         Cefnogol i’r bwriad

 

c)         Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

·         Angen sicrhau lled ddigonol rhwng y carafanau yn unol â gofynion y drwydded

 

c)            Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfyngiad niferoedd carafanau ynteu gyfyngiad motorhomes nodwyd bod yr amodau yn cyfyngu 8 carafán neu 8 motorhome

 

            PENDERFYNWYD

 

            Caniatáu gydag amodau

 

1.         Amser  

2.         Unol a’r cynllun diwygiedig

3.         Cyfyngu niferoedd a defnydd a dim pebyll i’w gosod o fewn safle’r cais

4.         Cynllun arwyddion dwyieithog

 

Nodyn: Angen sicrhau trwydded briodol