11 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2020/21 PDF 190 KB
Cyflwyno adroddiad y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei hadroddiad blynyddol mewn
perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Gwynedd yn ystod y
flwyddyn flaenorol.
Nododd y
Cyfarwyddwr, oherwydd y pandemig, fod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn
i’r blynyddoedd a fu, ac yn flwyddyn na ddymunid gweld ei thebyg fyth eto. Cydymdeimlodd â phawb oedd wedi colli
anwyliaid i’r firws, a diolchodd i bob un o weithwyr gofal y sir, oedd wedi
mynd tu hwnt i’r gofyn i roi’r gofal gorau bosib’ i’r trigolion. Nododd hefyd fod y cydweithio ar draws
Gwynedd wedi bod yn ysbrydoliaeth i bawb, ac y gwelwyd y gorau o bobl yng
Ngwynedd, yn staff, gwirfoddolwyr, pencampwyr yn y cymunedau ac aelodau
etholedig.
Nododd ymhellach,
er gwaetha’r heriau a wynebwyd yn sgil y pandemig, ei bod yn falch o nodi fod
perfformiad gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn a fu wedi bod yn
gadarnhaol unwaith eto. Fodd bynnag,
wrth ganolbwyntio ar ymdopi gyda’r argyfwng Cofid, roedd rhai blaenoriaethau
wedi llithro rhywfaint, neu wedi eu rhoi o’r neilltuo am y tro. O ganlyniad, roedd yr adroddiad yn
canolbwyntio ar y ffordd yr ymatebwyd i’r pandemig a’r modd y parhawyd i gynnal
a darparu’r gwasanaethau hanfodol, yn ogystal â datblygu a darparu gwasanaethau
newydd.
Eglurodd fod llu o staff a rheolwyr gweithgar ac ymroddedig y tu ôl i’r
perfformiad yma, yn ogystal â gofalwyr sy’n deulu neu ffrindiau, rhieni maeth a
gwirfoddolwyr. Roedd y pandemig wedi
dangos bod gwasanaethau gofal cadarn yn y cymunedau yn hollol hanfodol, a mawr
obeithid y byddai polisïau a threfniadau, ayb, i’r dyfodol yn amlygu bod y
sector gofal cyn bwysiced â’r gwasanaethau iechyd.
Pwysleisiodd y byddai hi a’r penaethiaid yn cadw golwg barcud ar effaith
y flwyddyn ddiwethaf ar y staff yn yr hir dymor a’r tymor byr / canolig. Roedd cefnogaeth iechyd meddwl ar gael i’r
staff, ac roedd rhaid bod yn byw i anghenion staff unigol, a cheisio rhagweld y
problemau i’r dyfodol. Roedd y pandemig
hefyd wedi gadael effaith ar boblogaeth y sir o ran cyflogaeth, unigrwydd,
iselder, ayb, ac roedd y Bwrdd Cefnogi Pobl yn edrych ar faterion llesiant, ac
wedi dysgu o’r profiadau Cofid er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb yn y ffordd
orau bosib’.
Ychwanegodd nad oedd perfformiad da yn bosib’ heb y gefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol, a diolchodd i bawb o’r aelodau am eu gwaith drwy gydol bob blwyddyn yn cefnogi, herio a chynnig sylwadau a syniadau newydd. Diolchodd i’r ddau Aelod Cabinet yn y maes gofal, y Cynghorwyr Dafydd Meurig a Dilwyn Morgan, ac i’r Arweinydd a gweddill y Cabinet a Chadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal am eu cymorth parhaus a’u cefnogaeth i’r maes. Manteisiodd hefyd ar y cyfle i ddiolch i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Pennaeth Plant a Theuluoedd a’r uwch reolwyr a’r rheolwyr. Diolchodd hefyd i adrannau eraill y Cyngor am eu parodrwydd i gamu i mewn a chefnogi’r gwaith gofal cymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolchodd yn arbennig i Dilwyn Williams am ei arweiniad a’i gefnogaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11