7 POLISI TROSGLWYDDO IAITH YN Y CARTREF LLYWODRAETH CYMRU PDF 361 KB
Ystyried yr
adroddiad.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd.
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Iaith gwybodaeth ynghylch polisi
trosglwyddo iaith yn y cartref gan Lywodraeth Cymru. Ategodd y buodd
ymgynghoriad ar ddechrau’r flwyddyn ddiwethaf cyn y cyfnod clo cyntaf, ac o
ganlyniad i hyn nad yw’r polisi wedi dod o flaen y pwyllgor fel dogfen ddrafft.
Eglurodd
prif ddiben y polisi sef ffocysu ar drosglwyddo iaith o fewn y cartref yn unig
a chynnig arweiniad er mwyn galluogi rhieni a gofalwyr i gyflwyno’r
Gymraeg i’w plant yn y cartref. Croesawodd yr Ymgynghorydd Iaith y ddogfen gan
egluro ei fod yn manylu ar faes allweddol, sef annog rhieni sydd wedi dysgu
Cymraeg eu hunain o fewn y system addysg i drosglwyddo’r iaith ar yr aelwyd
gyda’u plant hwy.
Eglurodd
bod ambell i ddatblygiad ymhellach angen gan gynnwys;
· Datblygu
gwell dealltwriaeth ar ymarferion iaith a rhesymau siaradwyr dros beidio
trosglwyddo.
· Amseru’r
cyhoeddiad sef cyn cyhoeddiad canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf sydd â data
defnyddiol ynghylch yr iaith Gymraeg
· Diffyg
ystyriaeth i effaith y pandemig Covid-19 ar arferion
iaith tra bu’r ysgolion ar gau.
· Diffyg
manylder gydag ambell i gam o fewn y polisi a sut i’w gwireddu.
· Ei
bod yn anwybyddu teuluoedd lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol.
· Elfennau
sut i ysbrydoli plant i ddefnyddio eu Cymraeg ac ail gynnau’r sgiliau drwy
gefnogi’r teulu cyfan.
Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion canlynol:-
· Cytunodd
aelodau bod diffyg manylder o fewn y polisi a bod angen enghreifftiau cyfredol
o sut y bwriedir gweithredu’r camau.
· Ategodd
aelod bod tystiolaeth yn ymddangos mewn ysgolion bod effaith negyddol sy’n
deillio o ddefnydd gormodol o sgriniau dros y cyfnod clo wedi newid arferion
iaith. Ategodd bod hyn yn cynnwys plant yn siarad Saesneg â’u brodyr a
chwiorydd.
· Rhoddodd
un aelod sylw bod pwyslais yr adroddiad ar ardaloedd lle mae plant yn ennill eu
Cymraeg drwy'r system addysg ond yn peidio â throsglwyddo’r Gymraeg ar yr
aelwyd gyda’u plant hwy yn y dyfodol. Ategodd mai rheswm dros hyn yw gan mai
Saesneg yw eu mamiaith.
· Mynegodd
aelod nad oedd pwyslais ar broblemau sydd fan
hyn mewn
ardal lle mae Cymraeg yn iaith naturiol o fewn y cartref i’r mwyafrif
· Ategodd
aelod at hyn gan nodi nad oes sicrwydd beth fydd effaith tymor hir y cyfnodau
clo ar yr iaith gan fod arferion plant wedi newid.