12 YMESTYN PENODIAD AELOD LLEYG O'R PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU PDF 140 KB
Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Cyllid.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Ymestyn penodiad Mrs Sharon
Warnes fel aelod lleyg o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu am flwyddyn
ychwanegol, hyd at etholiad Mai 2022.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn gofyn i’r
Cyngor ymestyn penodiad Mrs
Sharon Warnes fel aelod lleyg o’r
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu am flwyddyn ychwanegol, hyd at etholiad Mai 2022, gan fod y cyfnod llywodraeth
leol presennol yn dod i
ben yn 2022, a gyda newidiadau cyfansoddiadol yn golygu y bydd
newidiadau eithaf sylweddol i aelodaeth
y pwyllgor yn dod yn weithredol
o Fai 2022, yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid, Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, ac aelodau o’r pwyllgor, fod
Mrs Sharon Warnes wedi bod yn aelod gweithgar
iawn dros y blynyddoedd.
PENDERFYNWYD ymestyn
penodiad Mrs Sharon Warnes fel aelod lleyg
o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu am flwyddyn ychwanegol, hyd at etholiad Mai 2022.