ACHOS BUSNES AMLINELLOL PROSIECT MORLAIS
Penderfyniad:
Cymeradwywyd yr
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Morlais ac, yn amodol ar
gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi
a bod Menter Môn yn rhoi sylw i’r materion wedi’u nodi yn Adran 7 yr adroddiad,
bod cais yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i’r Bwrdd ei ystyried yn
dilyn cwblhau’r broses caffael a’r broses caniatâd.
Nodwyd fod y
trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y
Llythyr Cynnig Grant yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac
awdurdodwyd Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a
Swyddog Monitro’r Bwrdd i gytuno ar y telerau drafft i’w cymeradwyo gan y
Bwrdd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Henry Aron
(Rheolwr Rhaglen Ynni) ac Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).
PENDERFYNWYD
Cymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Morlais
ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd
yr ymgymerwyd â hi a bod Menter Môn yn rhoi sylw i’r materion wedi’u nodi yn
Adran 7 yr adroddiad, bod cais yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn
i’r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau’r broses caffael a’r broses caniatâd.
Nodwyd fod y trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect a
fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant yn cael eu cytuno ar y cam Achos
Busnes Llawn ac awdurdodwyd Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog
Adran 151 a Swyddog Monitro’r Bwrdd i gytuno ar y telerau drafft i’w cymeradwyo
gan y Bwrdd.
RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD
Yn unol â chytundeb terfynol y Cynllun Twf, caiff achosion busnes eu
datblygu ar gyfer pob prosiect o fewn y Cynllun Twf, yn unol â’r canllawiau ‘Better Business Case’ a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a Thrysorlys EM.
Mae angen cymeradwyaeth y Bwrdd i bob achos busnes fel bod modd i’r prosiect
symud yn ei blaen i’r wedd nesaf.
TRAFODAETH
Trafodwyd yr adroddiad.