9 Cais Rhif C20/1076/14/LL Coed Helen Holiday Park Lôn Coed Helen, Caernarfon, LL54 5RS PDF 330 KB
Cais ar gyfer
ymestyn cyfnod preswylio gwyliau yn yr unedau carafan statig ar y safle er mwyn
gallu eu defnyddio drwy'r flwyddyn ar gyfer gwyliau
Aelodau Lleol:
Cynghorydd Roy Owen a’r Cynghorydd Cai
Larsen
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniatáu
Amodau
Cofnod:
Cais ar
gyfer ymestyn cyfnod preswylio gwyliau yn yr
unedau carafán statig ar y safle
er mwyn gallu
eu defnyddio drwy'r flwyddyn ar gyfer gwyliau
a)
Amlygodd
yr Uwch Swyddog
Cynllunio bod polisi TWR 4 yn gefnogol i
gynigion i ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer
safleoedd carafanau sefydlog a sialetau presennol os gellid
dangos bod y llety yn cael ei
ddefnyddio hyd at ddibenion gwyliau yn unig ac nad yw’n dod yn brif
neu unig gartref y deilydd. Nodwyd bod caniatadau presennol ar gyfer y safle
yn caniatáu i’r unedau sefydlog
gael eu
meddiannu rhwng 1 Mawrth mewn un flwyddyn a 10 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol.
Mae’r safle carafanau yn bresennol
yng nghau am 7 wythnos o’r
flwyddyn.
Eglurwyd bod y Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaeth
(Mawrth 2021) hefyd yn cyfeirio at ddefnydd amodau meddiannaeth gwyliau sydd yn galluogi
defnyddio unedau gwyliau drwy’r flwyddyn, ond gydag
amodau perthnasol sy’n sicrhau na ddefnyddir y fath unedau ar
gyfer defnydd preswyl parhaol. Nid yw Polisi
TWR 4 yn cyfyngu’r cyfnod y gellir meddiannu carafanau / sialetau sefydlog. Gellid felly meddiannu carafanau / sialetau sefydlog i bwrpas
gwyliau trwy gydol y flwyddyn ac mae sawl
cyfraith achos yn glir ac yn
gefnogol ar y mater hwn. Mae sawl safle
yng Ngwynedd bellach yn gweithredu
felly, gydag amod i sicrhau mai
ar gyfer defnydd gwyliau yn unig y’u
defnyddir. Amlygwyd y gellid cynnwys amod mai ar
gyfer pwrpas gwyliau yn unig
y defnyddir y carafanau sefydlog ar y safle
a bod cofrestr o enwau meddianwyr y carafanau, hyd y cyfnod aros
a chyfeiriad eu prif gartref yn
cael ei gadw.
Adroddwyd bod rhai ceisiadau tebyg wedi eu
gwrthod gan y Pwyllgor Cynllunio yn y gorffennol ar sail y byddai defnydd 12 mis yn golygu y byddai
pobl yn defnyddio’r
unedau fel tai drwy’r flwyddyn
ac yn cael effaith ar yr
Iaith Gymraeg. Yn nodedig, gwrthodwyd
cais i ymestyn
amser safle Ocean Heights yn Chwilog am y rhesymau hyn (C12/1323/41/LL). Bu
apêl cynllunio ar y penderfyniad oedd yn cynnwys
cais am gostau yn erbyn y Cyngor.
Er mwyn sicrhau cysondeb,
nodwyd bod y bwriad i ymestyn y cyfnod
meddiannu’r unedau i 12 mis yn
cwrdd â gofynion polisïau fel ag
a nodwyd yn yr adroddiad Byddai
gosod amod cynllunio i sicrhau
y byddai’r unedau yn cael eu
defnyddio ar gyfer defnydd gwyliau
yn unig. Nid oes tystiolaeth
yn dangos y byddai’r bwriad yn cael effaith
sylweddol fwy ar yr Iaith
Gymraeg na’r sefyllfa bresennol.
b) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu’r cais
c)
Tynnwyd
sylw at nodyn yn yr adroddiad
bod yr Aelod Lleol, mewn egwyddor
yn gefnogol i’r cais
PENDERFYNWYD:
Caniatáu - amodau
1. 5 mlynedd
2. Defnydd gwyliau a chadw cofrestr.