7 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2020/21 PDF 179 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol).
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r adroddiad
blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 8 Gorffennaf, yn ddarostyngedig i
ychwanegu cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro.
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn amgáu drafft o adroddiad
blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2020/21.
Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddogfen.
Gofynnwyd i’r aelodau
gysylltu â’r Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) gydag unrhyw
ddiweddariadau i’w bywgraffiadau.
Nododd y Swyddog
Monitro fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod
adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau ar sail statudol o’r flwyddyn nesaf
ymlaen.
Awgrymwyd y dylid cynnwys cyfeiriad yn yr
adroddiad blynyddol at fater a godwyd yn y Cyngor llawn droeon ynglŷn â’r
prawf budd cyhoeddus. Mewn ymateb,
eglurodd y Swyddog Monitro fod y Llywodraeth yn gwneud gwaith cychwynnol ar
adolygiad o’r drefn foesegol yn ei chyfanrwydd, a’i bod yn debyg y byddai
trafodaeth ynglŷn â’r prawf budd cyhoeddus yn codi fel rhan o hynny. Ni ddymunai godi gobeithion, oherwydd bod
cymaint o ffactorau yn dylanwadu ar hynny.
Er hynny, efallai bod cyfle trwy gyfrannu at hyn i amlygu sut mae’r
drefn yn gweithio i gynghorau cymuned pan mae’r rhiniog yn cael ei osod ar
lefel cyngor sir, a chytunodd i ddrafftio geiriad o gwmpas hynny ar gyfer y
rhagarweiniad i’r adroddiad blynyddol.
Gan gyfeirio at y bwriad dan Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i osod dyletswydd statudol ar
Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ynglŷn â safonau ymddygiad aelodau,
awgrymwyd y gallai’r hyfforddiant a ddarperir ar gyfer yr Arweinyddion fod o
gymorth o ran y mater a godwyd droeon yn y Cyngor, oherwydd y gallai’r
Arweinyddion egluro wrth eu haelodau beth yw’r problemau sy’n wynebu’r Pwyllgor
Safonau, pa fath o waith mae’r pwyllgor yn ymdrin ag o, ayb.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r
Cyngor llawn ar 8 Gorffennaf, yn ddarostyngedig i ychwanegu cyflwyniad a
rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro.