Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 14/06/2021 - Pwyllgor Safonau (eitem 7)

7 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2020/21 pdf eicon PDF 179 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 8 Gorffennaf, yn ddarostyngedig i ychwanegu cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn amgáu drafft o adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2020/21.  Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddogfen.

Gofynnwyd i’r aelodau gysylltu â’r Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) gydag unrhyw ddiweddariadau i’w bywgraffiadau.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau ar sail statudol o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

 

Awgrymwyd y dylid cynnwys cyfeiriad yn yr adroddiad blynyddol at fater a godwyd yn y Cyngor llawn droeon ynglŷn â’r prawf budd cyhoeddus.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod y Llywodraeth yn gwneud gwaith cychwynnol ar adolygiad o’r drefn foesegol yn ei chyfanrwydd, a’i bod yn debyg y byddai trafodaeth ynglŷn â’r prawf budd cyhoeddus yn codi fel rhan o hynny.  Ni ddymunai godi gobeithion, oherwydd bod cymaint o ffactorau yn dylanwadu ar hynny.  Er hynny, efallai bod cyfle trwy gyfrannu at hyn i amlygu sut mae’r drefn yn gweithio i gynghorau cymuned pan mae’r rhiniog yn cael ei osod ar lefel cyngor sir, a chytunodd i ddrafftio geiriad o gwmpas hynny ar gyfer y rhagarweiniad i’r adroddiad blynyddol.

 

Gan gyfeirio at y bwriad dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i osod dyletswydd statudol ar Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ynglŷn â safonau ymddygiad aelodau, awgrymwyd y gallai’r hyfforddiant a ddarperir ar gyfer yr Arweinyddion fod o gymorth o ran y mater a godwyd droeon yn y Cyngor, oherwydd y gallai’r Arweinyddion egluro wrth eu haelodau beth yw’r problemau sy’n wynebu’r Pwyllgor Safonau, pa fath o waith mae’r pwyllgor yn ymdrin ag o, ayb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 8 Gorffennaf, yn ddarostyngedig i ychwanegu cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro.