8 DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - NEWIDIADAU I'R FFRAMWAITH FOESEGOL PDF 332 KB
Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
(1) Yn ddarostyngedig
i gyhoeddi arweiniad gan y Llywodraeth, dylid cymryd camau i gynnal
hyfforddiant i Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ar y gofynion a sut y gellid eu
cyfarch.
(2) Y dylai’r
Pwyllgor Safonau sefydlu protocol ar gyfer gweithredu, cyd-weithredu a monitro
gweithrediad y dyletswydd erbyn Rhagfyr 2021, a hynny mewn cyd-drafodaeth gydag
Arweinyddion a Dirprwy Arweinyddion Grwpiau presennol y Cyngor.
(3) Dylid gosod yr uchod o fewn Rhaglen Waith y
Pwyllgor.
(4) Gwahodd y Swyddog
Monitro i fwrw ymlaen â’r gwaith, a threfnu gweithdy ar bwynt penodol er mwyn
magu’r berthynas rhwng Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol ac aelodau’r Pwyllgor
hwn.
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad
y Swyddog Monitro yn manylu ar y newidiadau i’r fframwaith foesegol fel rhan o
Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gan gyfeirio’n benodol at
gyfrifoldeb statudol Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol am ymddygiad eu haelodau.
Awgrymwyd y byddai’n
fuddiol trefnu gweithdy rhwng Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol ac aelodau’r
pwyllgor hwn, er mwyn magu perthynas weithredol bositif rhyngddynt.
PENDERFYNIAD
(1) Yn ddarostyngedig i gyhoeddi arweiniad gan y Llywodraeth, dylid
cymryd camau i gynnal hyfforddiant i Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol ar y
gofynion a sut y gellid eu cyfarch.
(2) Y dylai’r Pwyllgor Safonau sefydlu protocol ar gyfer gweithredu,
cyd-weithredu a monitro gweithrediad y dyletswydd erbyn Rhagfyr 2021, a hynny
mewn cyd-drafodaeth gydag Arweinyddion a Dirprwy Arweinyddion Grwpiau presennol
y Cyngor.
(3) Dylid gosod yr uchod o fewn Rhaglen Waith y Pwyllgor.
(4) Gwahodd y Swyddog Monitro i fwrw ymlaen â’r gwaith, a threfnu
gweithdy ar bwynt penodol er mwyn magu’r berthynas rhwng Arweinyddion y Grwpiau
Gwleidyddol ac aelodau’r Pwyllgor hwn.