8 GRANTIAU COVID I FYD ADDYSG I GYNORTHWYO DISGYBLION PDF 601 KB
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a godwyd, gan hefyd obeithio cael diweddariad ar hyn ymhellach
ymlaen yn y flwyddyn.
Cofnod:
Croesawyd swyddogion yr Adran Addysg
a GwE i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn manylu
ar y Grant Rhaglen Dysgu Carlam a dderbyniwyd gan ysgolion i gynorthwyo
disgyblion yn sgil Covid.
Manylodd yr Uwch Reolwr Ysgolion
ar gefndir ac amodau’r grant, gan nodi bod cyfanswm yr arian
a neilltuwyd i ysgolion Gwynedd tua
£2,220,440.
Cyfeiriodd Arweinydd Craidd – Cynradd, GwE at y Dangosfwrdd Cynllunio Grantiau Rhanbarthol a luniwyd gan GwE er
mwyn cefnogi ysgolion i gynllunio’n
effeithiol ar gyfer gwario’r grantiau, gan hefyd
roi trosolwg o’r cynlluniau ysgolion cynradd. Yna rhoddodd Arweinydd Craidd – Uwchradd, GwE drosolwg o’r
cynlluniau ysgolion uwchradd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chyflwyno sylwadau.
Awgrymwyd, unwaith y bydd yr ysgolion
wedi cael cyfle i ddefnyddio’r
grant yn llawn, y byddai’n fuddiol derbyn crynodeb o farn penaethiaid, athrawon a disgyblion sydd wedi elwa
o’r gefnogaeth ychwanegol, fel bod modd mesur effaith
y grant. Awgrymwyd
hefyd y byddai’n fuddiol cael crynodeb
o’r arferion da a danlinellwyd gan Arweinyddion Craidd – GwE.
Mewn ymateb, eglurwyd bod disgwyl i’r penaethiaid gyflwyno gwybodaeth i’r Adran Addysg
a GwE yn nhymor yr hydref
am effaith y grantiau, a gellid dod
â hynny gerbron y craffwyr ar yr
adeg hynny. Nodwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru yn awyddus
i gael
enghreifftiau o’r arferion da y cyfeiriwyd atynt fel bod modd
eu rhannu’n genedlaethol.
I gloi, pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Addysg bwysigrwydd sicrhau cysondeb o ran y ddarpariaeth ar draws y sir. Mynegodd ei werthfawrogiad
o’r gwaith a gyflawnwyd, ond cytunodd nad
oedd GwE na’r Adran mewn
sefyllfa i roi diweddariad llawn ar hyn
o bryd. Nododd ymhellach ei fod yn
ymwybodol o’r gweithgareddau sydd wedi mynd ymlaen,
a bod rhannu arferion da yn elfen bwysig
iawn o hyn.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a godwyd, gan hefyd obeithio cael
diweddariad ar hyn ymhellach ymlaen yn y flwyddyn.