Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:-
· 28ain Mehefin, 2021 (Cyfarfod Arbennig)
·
8fed Gorffennaf, 2021
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau a
nodir isod fel rhai cywir:-
·
28
Mehefin, 2021 (Cyfarfod Arbennig)
·
8
Gorffennaf, 2021
12 CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 496 KB
Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
(1) Mabwysiadu’r
dyraniad seddau a nodir yn Atodiad A i’r adroddiad i’r Cyngor.
(2) Dirprwyo’r hawl
i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail
cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.
Cofnod:
Cyflwynodd y Pennaeth
Gwasanaethau Democratiaeth adroddiad yn adolygu cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor
yn dilyn:-
·
Is-etholiad
yn ward Harlech / Talsarnau yn sgil ymddiswyddiad y cyn-gynghorydd Freya
Bentham, Grŵp Annibynnol;
·
Ethol
y Cynghorydd Gwynfor Owen yn ward Harlech / Talsarnau, Grŵp Plaid Cymru.
Nodwyd bod clip fideo byr i’w weld ar y fewnrwyd aelodau
yn egluro sut mae’r fformiwla dyrannu seddau ar bwyllgorau yn gweithio.
PENDERFYNWYD
(1) Mabwysiadu’r dyraniad seddau a nodir yn Atodiad A i’r cofnodion
hyn.
(2) Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud
penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â
dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.