CYFETHOL DISGYBLION AR BWYLLGOR CYSAG
I ystyried
cyfethol disgyblion ar Bwyllgor CYSAG
Penderfyniad:
Llunio Gweithgor i edrych ar yr holl opsiynau o ran
cyfethol disgyblion ar bwyllgor CYSAG i gynnwys Y Cyng. Dewi W Roberts, Miriam
Amlyn, Anest G Frazer a Gwawr M Williams.
Cofnod:
Atgoffwyd pawb bod
y mater uchod wedi ei drafod rai blynyddoedd yn ôl, ac mai un o’r anawsterau ar
y pryd oedd materion ymarferol yn ymwneud â gallu disgyblion i deithio i
Gaernarfon i fynychu cyfarfodydd. Nodwyd
na fyddai teithio yn broblem erbyn hyn gan fod y cyfarfodydd yn cael eu cynnal
yn rhithiol.
Cafwyd trafodaeth
a nodwyd pryderon megis cyfrinachedd adroddiadau a tybed fyddai yn addas i
ddisgybl fod yn rhan o’r math hwn o drafodaeth? Nodwyd, fodd bynnag, bod
cyfarfodydd CYSAG yn gyfarfodydd cyhoeddus.
Nodwyd bod yn rhaid cael pwrpas clir i’r disgybl fod yn bresennol yn y
cyfarfod, gyda rôl a chyfraniad clir i’w wneud.
Cwestiynwyd beth fyddai y sefyllfa o ran angen y disgybl i ddatgan
buddiant?
Awgrymwyd y gellid
ystyried derbyn mewnbwn gan athro a disgybl wrth i athro sôn am ddarn arbennig
o waith a’r plentyn yn ei drafod o ogwydd y disgybl? Atgoffwyd y Pwyllgor bod y mater o gynnwys
disgyblion ym mhwyllgorau y Cyngor wedi ei drafod mewn pwyllgorau eraill.
Teimlodd y Pwyllgor, o ganlyniad i newid mewn rheolau pleidleisio ar gyfer pobl
ifanc, a’r gwaith o hybu yr ifanc i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, y
byddai yn ddefnyddiol i’r Cadeirydd wneud ymholiadau pellach. Cwestiynwyd efallai y byddai yn well trafod
gyda phobl ifanc yn y lle cyntaf gan egluro beth yw CYSAG a holi tybed a
fyddent yn teimlo bod rôl ganddynt?
Nodwyd ei bod yn bwysig bod yn glir beth fyddai rôl y disgybl yn y
cyfarfod. Cadarnhawyd y byddai angen
ystyried sut i ddewis plant o ran oedran, lleoliad, faint o blant, ayyb.
Penderfynwyd, yn
ddarostyngedig ar y sylwadau a ddaw i law yn dilyn sgwrs rhwng y Cadeirydd a’r
Swyddog priodol, derbyn y cynnig i lunio gweithgor i edrych ar yr holl opsiynau
o ran cyfethol disgyblion ar bwyllgor
CYSAG. Cytunwyd y byddai angen adrodd
yn ôl i’r Pwyllgor llawn maes o law o dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Dewi W
Roberts, gyda Miriam Amlyn, Anest G Frazer a Gwawr M Williams yn aelodau.