Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 08/06/2021 - CYSAG (eitem 10)

CYFETHOL DISGYBLION AR BWYLLGOR CYSAG

I ystyried cyfethol disgyblion ar Bwyllgor CYSAG

Penderfyniad:

Llunio Gweithgor i edrych ar yr holl opsiynau o ran cyfethol disgyblion ar bwyllgor CYSAG i gynnwys Y Cyng. Dewi W Roberts, Miriam Amlyn, Anest G Frazer a Gwawr M Williams.

Cofnod:

Atgoffwyd pawb bod y mater uchod wedi ei drafod rai blynyddoedd yn ôl, ac mai un o’r anawsterau ar y pryd oedd materion ymarferol yn ymwneud â gallu disgyblion i deithio i Gaernarfon i fynychu cyfarfodydd.  Nodwyd na fyddai teithio yn broblem erbyn hyn gan fod y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol. 

 

Cafwyd trafodaeth a nodwyd pryderon megis cyfrinachedd adroddiadau a tybed fyddai yn addas i ddisgybl fod yn rhan o’r math hwn o drafodaeth? Nodwyd, fodd bynnag, bod cyfarfodydd CYSAG yn gyfarfodydd cyhoeddus.  Nodwyd bod yn rhaid cael pwrpas clir i’r disgybl fod yn bresennol yn y cyfarfod, gyda rôl a chyfraniad clir i’w wneud.  Cwestiynwyd beth fyddai y sefyllfa o ran angen y disgybl i ddatgan buddiant? 

 

Awgrymwyd y gellid ystyried derbyn mewnbwn gan athro a disgybl wrth i athro sôn am ddarn arbennig o waith a’r plentyn yn ei drafod o ogwydd y disgybl?  Atgoffwyd y Pwyllgor bod y mater o gynnwys disgyblion ym mhwyllgorau y Cyngor wedi ei drafod mewn pwyllgorau eraill. Teimlodd y Pwyllgor, o ganlyniad i newid mewn rheolau pleidleisio ar gyfer pobl ifanc, a’r gwaith o hybu yr ifanc i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, y byddai yn ddefnyddiol i’r Cadeirydd wneud ymholiadau pellach.  Cwestiynwyd efallai y byddai yn well trafod gyda phobl ifanc yn y lle cyntaf gan egluro beth yw CYSAG a holi tybed a fyddent yn teimlo bod rôl ganddynt?  Nodwyd ei bod yn bwysig bod yn glir beth fyddai rôl y disgybl yn y cyfarfod.  Cadarnhawyd y byddai angen ystyried sut i ddewis plant o ran oedran, lleoliad, faint o blant, ayyb.

 

Penderfynwyd, yn ddarostyngedig ar y sylwadau a ddaw i law yn dilyn sgwrs rhwng y Cadeirydd a’r Swyddog priodol, derbyn y cynnig i lunio gweithgor i edrych ar yr holl opsiynau o ran cyfethol disgyblion ar bwyllgor CYSAG.  Cytunwyd y byddai angen adrodd yn ôl i’r Pwyllgor llawn maes o law o dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Dewi W Roberts, gyda Miriam Amlyn, Anest G Frazer a Gwawr M Williams yn aelodau.