7 Cais Rhif C20/1093/24/LL Tir ger Talardd, Dinas, Caernarfon, LL54 7YN PDF 574 KB
Cais ar gyfer
codi 16 annedd gyda mynedfa cysylltiol, parcio a thirweddu
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Aeron M Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gohirio er
mwyn:
Cofnod:
Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Awgrymodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu y dylid gohirio’r cais am y rhesymau canlynol:
·
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd gan yr Uned
Bioamrywiaeth ar gyfer y datblygiad yn cadarnhau bod angen gwybodaeth ychwanegol
gan Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru cyn y gellid cadarnhau na fyddai’r
datblygiad yn cael effaith andwyol ar yr Ardal Cadwraeth Arbennig
·
ADRA wedi cadarnhau deiliadaeth yr holl unedau
fel cymysgedd o rent cymdeithasol a chanolradd ac felly cyfle i ail asesu’r
asesiad
b) Cynigwyd ac eiliwyd
i ohirio y cais
c) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol
gan aelod:
·
Bod y datganiad iaith yn annigonol - awgrym i’w ail ystyried
PENDERFYNWYD:
Gohirio
er mwyn:
·
Asesu datganiad rheoli cynefinoedd
·
Ail asesu’r asesiad yn dilyn
cadarnhad bod yr holl dai yn dai fforddiadwy
·
Ail ystyried y datganiad iaith a
sut mae’r newid yn effeithio materion ieithyddol
·
Cynnwys y sylwadau hwyr yn yr asesiad