Cais ar gyfer
codi ty deulawr gyda modurdy
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Owain Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gohirio
Cofnod:
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod sylw wedi dod i
law gan asiant y cais yn cadarnhau
fod angen cywiro cyfeiriad y safle
Ategodd
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
ei fod wedi
derbyn cais gan yr Aelod
Lleol i ohirio’r
cais gan nad oedd
cyfeiriad y cais yn gywir. Nododd
bod gofynion statudol yn ymwneud â hysbysebu
cais gan gynnwys manylion manwl a chywir - os nad yw cyfeiriad y lleoliad yn eglur
byddai hyn yn amlygu risgiau.
Ategodd yr Aelod Lleol
bod y cyfeiriad wedi creu dryswch ac y byddai ail hysbysebu yn rhoi cyfle
i drigolion lleol gyflwyno sylwadau er derbyn
bod hyn yn creu anghyfleustra i’r ymgeisydd
PENDERFYNWYD:
Gohirio’r cais
• Angen ail-hysbysebu’r cais gyda’r
cyfeiriad cywir – ail ymgynghori ac ail osod rhybudd safle.