Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 12/07/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 10)

10 Cais Rhif C21/0483/33/LL Plas Yng Ngheidio, Ceidio, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YL pdf eicon PDF 316 KB

Dymchwel sied fferm bresennol a chodi sied amaethyddol newydd yn ei lle i gadw peiriannau a phorthiant

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu gydag amodau

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         Gorffeniad lliw llwyd i gydweddu siediau presennol 

4.         Amod defnydd amaethyddol

 

Nodyn: Draenio Cynaliadwy (SUDS)

 

Cofnod:

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn ymwneud â dymchwel cytiau carreg presennol a chodi sied amaethyddol newydd yn eu lle i gadw peiriannau a phorthiant o fewn iard y fferm ymysg adeiladau fferm presennol. Bydd y sied wedi ei hadeiladu o wal flociau wedi eu rendro ar y gwaelod a shitiau dur lliw llwyd ar y muriau a'r to. Ategwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth aelod o’r Cyngor.

 

Eglurwyd bod maint a dyluniad y sied yn addas ac er bod yr eiddo o fewn dynodiad Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn, ni ystyriwyd y byddai sied o’r raddfa yma, ymysg adeiladau presennol, yn creu effaith gweledol niweidiol ar y tirlun hanesyddol ehangach. Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, adroddwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi gwneud cais am arolwg rhywogaethau gwarchodedig yn wreiddiol, ond wedi derbyn mwy o wybodaeth a lluniau, cadarnhawyd nad oedd angen arolwg gan nad oedd y strwythurau sydd i’w dymchwel yn addas i ystlumod.

 

Wedi asesu’r cais yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o agwedd angen, dyluniad, gorffeniad, effaith ar dirlun, mwynderau trigolion, ffyrdd a bioamrywiaeth.

 

a.     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

b.     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

·         Bod y sied yn fychan ac ar gyfer y diwydiant amaethyddol

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu gydag amodau

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         Gorffeniad lliw llwyd i gydweddu siediau presennol 

4.         Amod defnydd amaethyddol

 

Nodyn: Draenio Cynaliadwy (SUDS)