I adrodd ar y sefyllfa
gyfredol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd
b) Bod adroddiad pellach yn dod gerbron y pwyllgor i’w diweddaru
ar y sefyllfa.
Cofnod:
Cafwyd rhagair gan y Cynghorydd
Catrin Wager yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol yn atgoffa’r
Pwyllgor o’r toriadau sydd wedi bod dros y blynyddoedd ag arweiniodd at
Gynghorau cymuned yn cymryd cyfrifoldeb dros y biniau halen.
Eglurwyd bod gwaith wedi ei
gomisiynu i edrych ar y ddarpariaeth gan fod ymdeimlad ei fod yn annheg ar
gynghorau cymuned fwy gwledig neu ar dirwedd wahanol sydd angen fwy o
ddarpariaeth.
Ychwanegodd y Pennaeth Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol bod yr adroddiad yn amlygu trefniadau graeanu sydd
eisoes yn bodoli a threfniadau ynghylch ffyrdd prif flaenoriaeth ac ail
flaenoriaeth.
Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:-
- Diolchwyd am yr adroddiad a
llongyfarchwyd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ar eu hetholiad.
- Gofynnwyd a fydd modd
ystyried cydweithio gydag amaethwyr a chontractwyr lleol yn yr ardal fel bod
ganddynt gyflenwad i’w ddefnyddio ac o ganlyniad ni fydd angen biniau halen o
amgylch yr ardal.
- Holwyd os oes gan gynghorau
cymuned a thref yswiriant ar gyfer damweiniau wrth i bobl nôl halen ynteu ydi
hyn yn gyfrifoldeb ar yr Awdurdod.
- Nodwyd mewn rhai ardaloedd
bod rhai ffermwyr yn cydweithio efo’r Cyngor ers blynyddoedd a holwyd a fyddai
hyn yn parhau yn enwedig mewn ardaloedd sydd ag lonydd serth o gymharu â threfi
mwy gwastad.
- Awgrymwyd y buasai’n tecach i’r
gost cael ei rhannu’n gyfartal rhwng cynghorau tref a chymuned fel bod llai o
bwysau ar bentrefi llai sydd angen ei ddefnyddio fwy.
- Atgoffwyd un aelod nad oes
gaeaf caled wedi bod ers i’r ddyletswydd hwn ddisgyn ar gynghorau cymuned a
thref a gofynnwyd beth fyddai’r gost o’r holl ddamweiniau allai ddigwydd petai
ddim cyflenwad. Bod angen ail ystyried y trefniadau, dylid rhoi ystyriaeth i
ail-sefydlu’r gwasanaeth fel yr oedd gyda’r gwariant yn cael ei ariannu drwy
Dreth y Cyngor.
- Cwestiynwyd y targed arbed
arian o £100,000 gan nad oedd wedi ei wireddu a holwyd os oes opsiynau gwell i
osgoi trafferth i gynghorau cymuned a thref.
- Holodd aelod faint o
gynghorau cymuned a thref oedd wedi ymrwymo ac os yw’r Cyngor yn parhau i lenwi
biniau mewn cymunedau sydd heb ymrwymo.
Mewn ymateb i’r sylwadau nododd
y Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol y canlynol:-
- Cytunwyd, os fyddai’r Cyngor
yn edrych ar y ddarpariaeth, bod angen cyfle i gydweithio a chadw’r budd yn
lleol drwy roi cytundebau i gontractwyr neu ffermwyr lleol.
- O ran yswiriant, nodwyd bod
biniau halen yna i’w ddefnyddio ar sail risg yr unigolyn ac felly does dim
oblygiad dilynol yn erbyn y cyngor cymuned neu dref.
- Nodwyd os fydd perygl o risg,
bod cyfrifoldeb yn parhau ar yr Awdurdod Lleol i sicrhau bod y ffyrdd yn
ddiogel.
- Cytunwyd bod angen cysoni’r
dull gyfathrebu er mwyn trefnu ail lenwi biniau â halen.
- Nodwyd bod yr adran am edrych
ar ffyrdd blaenoriaeth/ ail flaenoriaeth er mwyn sicrhau diogelwch y
defnyddwyr.
- Mewn perthynas â’r arbediad arian, eglurodd y Pennaeth ei fod yn awyddus i glywed barn y pwyllgor ar y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7