Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/07/2021 - Y Cabinet (eitem 6)

6 DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - CAIS AM ADNODDAU I ALLUOGI MYNYCHU CYFARFODYDD O BELL pdf eicon PDF 295 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys and Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i ddefnyddio £130,000 o’r ‘Gronfa Trefniadau Adfer yn sgil Covid19’ i ariannu cynlluniau i alluogi cyfarfodydd hybrid a mynediad o bell i gyfarfodydd y Cyngor yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

Cytunwyd i ddefnyddio £130,000 o’r ‘Gronfa Trefniadau Adfer yn sgil Covid19’ i ariannu cynlluniau i alluogi cyfarfodydd hybrid a mynediad o bell i gyfarfodydd y Cyngor yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn gais am adnoddau i alluogi mynychu cyfarfodydd o bell. Amlygwyd fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cabinet a Cyngor Llawn diwethaf yn amlinellu gofynion newydd yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn benodol yr angen i sicrhau mynediad o bell i aelodau a sicrhau mynediad i’r cyhoedd. Bu i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn fabwysiadu trefniadau interim gan barhau i gynnal Cyfarfodydd yn rhithiol ar hyn o bryd.

 

Eglurwyd y bydd yn ofynnol sicrhau darpariaeth hybrid i’r dyfodol gyda rhai aelodau yn Siambr gydag eraill yn mynychu o bell. Mynegwyd y bydd hyn yn debygol o fod yn rhan o’r normal newydd ac o ganlyniad y bydd angen iddo fod yn syml ac yn rhedeg yn llyfn i Aelodau a swyddogion ble bynnag y byddant y cysylltu.

 

Amlygwyd y buddion o gynnig y ddarpariaeth â oedd yn cynnwys lleihau ôl troed carbon a sicrhau gwell defnydd o amser unigolion.  Nodwyd fod angen y gefnogaeth ariannol er mwyn uwchraddio’r dechnoleg.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Dangoswyd cefnogaeth i ariannu’r cynlluniau er mwyn nid yn unig lleihau ôl troed carbon ond i ddenu mwy o amrywiaeth i ymgeisio fel Cynghorwyr yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.

¾    Cefnogwyd y cais am arian gan fod cymaint wedi arfer defnyddio technoleg yn dilyn y flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd fod y swm yn edrych yn uchel ond fod costau teithio cynghorwyr wedi lleihau o ganlyniad i ddefnydd o’r dechnoleg.

¾    Amlygwyd yr angen am gadeirio cadarn os cyfarfodydd hybrid yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau tegwch.

¾   Holwyd os y bydd y dechnoleg i’w gweld yn y siambrau yn unig, nodwyd y bydd ystafelloedd cyfarfod ym mhrif swyddfeydd y Cyngor yn Cae Penarlag, Ffordd Y Cob, Penrhyndeudraeth, Penrallt a’r Pencadlys yn cael eu huwchraddio, gan ddefnyddio’r un dechnoleg ymhob lleoliad, a fydd yn hwyluso mynediad o bell ynghyd a rhoi hyblygrwydd.

Awdur: Geraint Owen