Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys and Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cytunwyd i ddefnyddio £130,000 o’r ‘Gronfa Trefniadau
Adfer yn sgil Covid19’ i ariannu cynlluniau i alluogi cyfarfodydd hybrid
a mynediad o bell i gyfarfodydd y Cyngor yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNWYD
Cytunwyd i ddefnyddio £130,000 o’r ‘Gronfa Trefniadau
Adfer yn sgil Covid19’ i ariannu cynlluniau i alluogi cyfarfodydd hybrid
a mynediad o bell i gyfarfodydd y Cyngor yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi ei fod yn gais am adnoddau i alluogi mynychu cyfarfodydd
o bell. Amlygwyd fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cabinet a Cyngor Llawn
diwethaf yn amlinellu gofynion newydd yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021, yn benodol yr angen i sicrhau mynediad o bell i
aelodau a sicrhau mynediad i’r cyhoedd. Bu i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn
fabwysiadu trefniadau interim gan barhau i gynnal Cyfarfodydd yn rhithiol ar hyn
o bryd.
Eglurwyd y bydd yn ofynnol sicrhau darpariaeth hybrid i’r
dyfodol gyda rhai aelodau yn Siambr gydag eraill yn mynychu o bell. Mynegwyd y
bydd hyn yn debygol o fod yn rhan o’r normal newydd ac o ganlyniad y bydd angen
iddo fod yn syml ac yn rhedeg yn llyfn i Aelodau a swyddogion ble bynnag y
byddant y cysylltu.
Amlygwyd y buddion o gynnig y ddarpariaeth â oedd yn
cynnwys lleihau ôl troed carbon a sicrhau gwell defnydd o amser unigolion. Nodwyd fod angen y gefnogaeth ariannol er
mwyn uwchraddio’r dechnoleg.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Dangoswyd cefnogaeth i ariannu’r cynlluniau er mwyn nid yn unig lleihau ôl
troed carbon ond i ddenu mwy o amrywiaeth i ymgeisio fel Cynghorwyr yn yr
etholiad y flwyddyn nesaf.
¾
Cefnogwyd y cais am arian gan fod cymaint wedi arfer defnyddio technoleg yn
dilyn y flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd fod y swm yn edrych yn uchel ond fod costau
teithio cynghorwyr wedi lleihau o ganlyniad i ddefnydd o’r dechnoleg.
¾
Amlygwyd yr angen am gadeirio cadarn os cyfarfodydd hybrid yn cael eu
cynnal er mwyn sicrhau tegwch.
¾ Holwyd os y bydd y dechnoleg i’w
gweld yn y siambrau yn unig, nodwyd y bydd ystafelloedd cyfarfod ym mhrif
swyddfeydd y Cyngor yn Cae Penarlag, Ffordd Y Cob,
Penrhyndeudraeth, Penrallt a’r Pencadlys yn cael eu huwchraddio, gan
ddefnyddio’r un dechnoleg ymhob lleoliad, a fydd yn hwyluso mynediad o bell
ynghyd a rhoi hyblygrwydd.
Awdur: Geraint Owen