Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/07/2021 - Y Cabinet (eitem 7)

7 UNED 2A PARC BUSNES ERYRI, PENRHYNDEUDRAETH pdf eicon PDF 415 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i ddefnyddio £83,000 o’r 'Gronfa Trawsffurfio’ i wireddu addasiadau i adeilad Uned 2a, Parc Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth er mwyn hwyluso cyswllt rhwng yr Adran Oedolion â’r gwasanaethau Iechyd a chreu ‘Siop Gwynedd’ i wasanaethu trigolion yr ardal.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

Cytunwyd i ddefnyddio £83,000 o’r 'Gronfa Trawsffurfio’ i wireddu addasiadau i adeilad Uned 2a, Parc Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth er mwyn hwyluso cyswllt rhwng yr Adran Oedolion â’r gwasanaethau Iechyd a chreu ‘Siop Gwynedd’ i wasanaethu trigolion yr ardal.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gofyn am fuddsoddiad o £83,000 o’r gronfa Drawsffurfiol Busnes i wireddu addasiadau i’r adeilad ym Mhenrhyndeudraeth. Mynegwyd yr angen i addasu’r adeilad er mwyn hwyluso’r cyswllt rhwng y Cyngor a thriolion.

 

Eglurwyd cyn y pandemig, fod y nifer o staff a oedd wedi ei lleoli yn swyddfa Galw Gwynedd wedi lleihau, a bellach mai dim ond uchafswm o 12 o staff ac Arweinydd Tîm fyddai wedi eu lleoli yn y ganolfan ar un adeg. Amlygwyd o ganlyniad i’r newid hwn mae cyfle i wneud gwell drefnydd o’r adeilad sydd mewn lleoliad defnyddiol i staff sy’n gwasanaethau Eifionydd. Nodwyd y bydd Siop Gwynedd yn cael ei sefydlu yno ynghyd a lleoliad swyddfa i staff yr Adran Oedolion sy’n cyd-weithio’n agos gyda’r gwasanaeth iechyd a fyddai o fewn pellter rhesymol o Ysbyty Alltwen.

 

Ychwanegodd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod gwneud yr addasiadau yma yn llenwi bwlch o yn y ddarpariaeth yn yr ardal ac yn rhoi cyfle i staff gofal a’r gwasanaeth iechyd i gydweithio mewn un lleoliad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾    Nodwyd fod addasu’r adeilad yn rhoi cyfle i gynnig gwell gwasanaeth i drigolion Gwynedd ac i annog cyd-weithio gwell rhwng yr Adran Oedolion a’r maes Iechyd.

¾   Holwyd gan fod y swyddfeydd am fod yn integredig rhwng Iechyd ar adran Oedolion holwyd os bydd y Bwrdd Iechyd yn cyfrannu at y costau. Eglurwyd fod lleoliadau yn y Gwasanaeth Iechyd y maes staff integredig y Cyngor yn gweithio ohonynt felly ni fydd angen gofyn am unrhyw gyfraniad.

Awdur: Geraint Owen