7 UNED 2A PARC BUSNES ERYRI, PENRHYNDEUDRAETH PDF 415 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cytunwyd i ddefnyddio £83,000 o’r 'Gronfa Trawsffurfio’ i
wireddu addasiadau i adeilad Uned 2a, Parc Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth er
mwyn hwyluso cyswllt rhwng yr Adran Oedolion â’r gwasanaethau Iechyd a chreu
‘Siop Gwynedd’ i wasanaethu trigolion yr ardal.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNWYD
Cytunwyd i ddefnyddio £83,000 o’r 'Gronfa Trawsffurfio’ i wireddu
addasiadau i adeilad Uned 2a, Parc Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth er mwyn
hwyluso cyswllt rhwng yr Adran Oedolion â’r gwasanaethau Iechyd a chreu ‘Siop
Gwynedd’ i wasanaethu trigolion yr ardal.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gofyn am fuddsoddiad o £83,000 o’r
gronfa Drawsffurfiol Busnes i wireddu addasiadau i’r adeilad ym Mhenrhyndeudraeth. Mynegwyd yr angen i addasu’r adeilad er
mwyn hwyluso’r cyswllt rhwng y Cyngor a thriolion.
Eglurwyd
cyn y pandemig, fod y nifer o staff a oedd wedi ei
lleoli yn swyddfa Galw Gwynedd wedi lleihau, a bellach mai dim ond uchafswm o
12 o staff ac Arweinydd Tîm fyddai wedi eu lleoli yn y ganolfan ar un adeg.
Amlygwyd o ganlyniad i’r newid hwn mae cyfle i wneud gwell drefnydd o’r adeilad
sydd mewn lleoliad defnyddiol i staff sy’n gwasanaethau Eifionydd. Nodwyd y
bydd Siop Gwynedd yn cael ei sefydlu yno ynghyd a lleoliad swyddfa i staff yr
Adran Oedolion sy’n cyd-weithio’n agos gyda’r gwasanaeth iechyd a fyddai o fewn
pellter rhesymol o Ysbyty Alltwen.
Ychwanegodd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod
gwneud yr addasiadau yma yn llenwi bwlch o yn y ddarpariaeth yn yr ardal ac yn
rhoi cyfle i staff gofal a’r gwasanaeth iechyd i gydweithio mewn un lleoliad.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
¾
Nodwyd fod addasu’r adeilad yn rhoi cyfle i gynnig gwell gwasanaeth i
drigolion Gwynedd ac i annog cyd-weithio gwell rhwng yr Adran Oedolion a’r maes
Iechyd.
¾ Holwyd gan fod y swyddfeydd am
fod yn integredig rhwng Iechyd ar adran Oedolion holwyd os bydd y Bwrdd Iechyd
yn cyfrannu at y costau. Eglurwyd fod lleoliadau yn y Gwasanaeth Iechyd y maes
staff integredig y Cyngor yn gweithio ohonynt felly ni fydd angen gofyn am
unrhyw gyfraniad.
Awdur: Geraint Owen