8 CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG 2022-2032 PDF 331 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
2022-2032 i fynd i gyfnod ymgynghori cyhoeddus yn nhymor yr Hydref 2021.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Cemlyn Williams
PENDERFYNWYD
Cymeradwywyd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
2022-2032 i fynd i gyfnod ymgynghori cyhoeddus yn nhymor yr Hydref 2021.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn bleser
cyflwyno’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Eglurwyd y bydd y cynllun yn
dod i rym ym Medi 2022 ac yn parhau am 10 mlynedd. Pwysleisiwyd y bydd y
cynllun yn gosod cyfeiriad ac ymrwymiad clir i’r Cyngor i addysg Gymraeg.
Amlygwyd mai dyma’r ail gynllun gan yr Adran Addysg sydd
yn ail edrych ar y ddarpariaeth o addysg Gymraeg dros yr wythnosau diwethaf ac
amlygwyd fod y Cyngor yn arwain drwy Gymru ar y defnydd o Gymraeg mewn addysg
ynghyd a cyfundrefn addysg drochi.
Nododd y Pennaeth Adran fod plethiad amlwg rhwng
weledigaeth ar gyfer y gyfundrefn drochi a’r cynllun uchelgeisiol hwn.
Pwysleisiwyd fod y cynllun yn un uchelgeisiol a heriol ac yn gosod targedau
pendant. Nodwyd y bydd hyblygrwydd y
gyfundrefn drochi yn galluogi’r adran i gyrraedd y targedau.
Tywysodd y Swyddog Addysg Uwchradd drwy’r cyflwyniad gan
amlinellu deilliannau’r strategaeth. Tynnwyd sylw at y cama fydd yn cael ei
gwneud eu mwyn cyflawni’r strategaeth gyda’r rhan ddeiliad a oedd yn cynnwys
diffinio categorïau ieithyddol ysgolion, ail-gyflwyno’r siarter iaith a sefydlu
Fforwm Iaith i sicrhau trefn atebolrwydd ac gadw golwg ar y targedau. Amlygwyd
yr amserlen y cyfnod ymgynghori ffurfiol.
Amlygodd yr Aelod Cabinet fod gwaith arbennig o dda yn y
sir ac cydnabod y gwaith da sydd yn cael ei wneud gan ysgolion y sir.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd fod trochi yn digwydd yn
ysgolion Gwynedd gan fod 100% o addysg yn gynnal drwy’r Gymraeg ac amlygwyd fod
y Cyngor yn arwain drwy Gymru ar hyn. Pwysleisiwyd ei bod yn angenrheidiol fod
pob plentyn yn cael ei addysgu drwy’r Gymraeg.
¾ Mynegwyd fod gwaith arbennig yn
cael ei wneud drwy’r ysgolion ond holwyd os oes cefnogaeth ar gael i’r rheini
sydd yn awyddus i addysgu o adref. Eglurwyd fod cynnydd wedi bod yn nifer y
plant sydd yn cael eu addysgu o adref, ond fod y cynllun strategol yn edrych yn
benodol ar ysgolion gan mai dyma gylch gwaith ynghyd a grym yr adran. Eglurwyd
fod dewis gan rieni i dderbyn pecyn cefnogaeth os yn awyddus i hyrwyddo’r
Gymraeg pan yn Dysgu o adref.
¾
Holwyd os yw’n orfodol i ysgolion ddefnyddio’r strategaeth, nodwyd fod
angen bellach i ysgolion ddangos eu bod yn symud ac yn datblygu eu dynodiadau
iaith.
Awdur: Rhian Parry Jones