9 ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU PDF 128 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodwyd y gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2020/21 yn y meysydd
gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth
Ranbarthol Gogledd Cymru
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig.
PENDERFYNWYD
Nodwyd y
gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2020/21 yn y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn
ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofyniad statudol i gyflwyno adroddiad blynyddol
i’r Llywodraeth am waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn yn unol a Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol. Eglurwyd fod y
flwyddyn hwn wedi bod yn wahanol ond fod ymroddiad y staff ar draws y rhanbarth
wedi bod yn eithriadol. Amlygwyd fod y flwyddyn wedi bod yn heriol o ganlyniad
i Covid 19. Nodwyd fod y bwrdd yn canolbwyntio ar
bobl, yn gleifion staff a sicrhau cynnal cefnogaeth di-dor. Pwysleisiwyd fod
pawb yn arwain at yr un nod sef i wneud gwahaniaeth i’r unigolion. Eglurwyd fod
angen edrych ymlaen ar adfer yn dilyn covid 19.
Nodwyd fod
y Llywodraeth yn dyrannu cyfran o’i harian drwy’r Byrddau Rhanbarthol, ac fod y
partneriaid yn cytuno ar yr arian ar y cyd.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾
Amlygwyd bellach fod nifer o byrddau rhanbarthol, a nodwyd pryder o beth
fydd rôl Cynghorwyr Lleol mewn materion sydd yn effeithio trigolion eu sir.
Pwysleisiwyd nad oes llawer o wybodaeth lawn o fewn yr adroddiadau a nodwyd yr
angen am wybodaeth ychwanegol am brosiectau sydd a gwariant o dros £19miliwn.
¾ Pwysleisiwyd fod gwaith da yn
cael ei wneud yn y bwrdd Rhanbarthol, amlygwyd pryder am ranbartholi
rhai gwasanaethau gan fod gwahaniaethau mawr ar draws y sir. Eglurwyd fod y
gweithredu yn gorfod digwydd ar lefel leol ac nid yn rhanbarthol.
Awdur: Morwena Edwards