Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 30/07/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 5)

5 CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD CHWARTER 1 pdf eicon PDF 301 KB

Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau i gyflwyno adroddiad Chwarter 1 (Mawrth-Mehefin) y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio a oedd wedi ei ddiweddaru.

 

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan Evans, Rheolwr Gweithrediadau

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd a derbyniwyd yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio a oedd wedi ei ddiweddaru.

 

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr 2020 bu i’r Bwrdd Uchelgais a Llywodraethau Cymru a’r DU gytuno ar Gytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae adrodd rheolaidd ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod fformat yr adroddiad yn debyg i’r adroddiadau blaenorol sydd wedi eu cyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais. Rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd ar raglenni a prosiectau’r Cynllun Twf. Eglurwyd mai Morlais oedd yr Achos Busnes Amlinellol cyntaf i gael ei ystyried ai gymeradwyo gan y Bwrdd a nodwyd fod y broses sicrwydd wedi ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd fod dau Achos Busnes Amlinellol arall wedi cychwyn y broses gymeradwyo, ac yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd yn hwyrach yn y cyfarfod.

 

Nodwyd fod mwyafrif o’r rhaglenni a prosiectau yn adrodd fel ‘Ambr’ yn yr adroddiad yn dilyn adolygiad ar yr amserlenni datblygu achosion busnes. Tynnwyd sylw at y pedwar sydd yn  adrodd yn ‘goch’ sef Ffibr Llawn mewn safleoedd allweddol, Campws Cysylltiedig, Safle Strategol Bodelwyddan a Porth Caergybi. Eglurwyd eu bod yn adrodd fel ‘coch’ o ganlyniad i risgiau yn sgôp y prosiectau neu oedi sylweddol yn yr amserlenni.

 

Mynegwyd fod nifer o weithgareddau Caffael bellach wedi ei cwblhau a oedd yn cynnwys Astudiaeth i gefnogi prosiect Coridorau Cysylltiedig. O ran cofrestr risg y portffolio nodwyd fod y proffil risg y Cynllun yn sefydlog. Amlygwyd fod risg ar fforddiadwyedd wedi cynyddu o ganlyniad i gynnydd sylweddol mewn costau adeiladu dros y misoedd diwethaf. Eglurwyd fod hyn wedi effeithio Cytundebau Twf a Threfi eraill ac yn cael ei fonitro. Amlygwyd yn ogystal fod rhai risgiau sylweddol yn gysylltiedig a rhai prosiectau unigol ynghyd â diogelu y buddsoddiad sector breifat yn y Cynllun.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Nodwyd o ran costau adeiladu yn codi yn y misoedd diwethaf amlygwyd yr angen i amlygu’r problem i’r Llywodraethau cyn i gostau gael eu cadarnhau. Eglurwyd fod y Llywodraethau yn ymwybodol ac fod y cynllun gyda rhywfaint o fantais gyda digon o amser cynllunio sydd yn rhoi cyfle i’r farchnad setlo.

·         Holwyd os ydi statws rhai cynlluniau yn goch, a ddim yn symud i ambr neu wyrdd os oes angen holi os yw’r cynllun yn hyfyw. Eglurwyd fod y cynlluniau yn hyblyg ac eu bod yn cael eu datblygu yn unol a parodrwydd ac nid blaenoriaethau.