5 CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD CHWARTER 1 PDF 301 KB
Hedd Vaughan-Evans,
Rheolwr Gweithrediadau i gyflwyno adroddiad Chwarter 1 (Mawrth-Mehefin)
y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodwyd a derbyniwyd
yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio a oedd wedi
ei ddiweddaru.
Cymeradwywyd
cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU,
ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan Evans, Rheolwr Gweithrediadau
PENDERFYNWYD
Nodwyd a derbyniwyd yr
Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio a oedd wedi ei
ddiweddaru.
Cymeradwywyd cyflwyno
Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd
â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Ym mis Rhagfyr 2020 bu
i’r Bwrdd Uchelgais a Llywodraethau Cymru a’r DU gytuno ar Gytundeb Terfynol ar
gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae adrodd rheolaidd ar gynnydd yn erbyn
Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod fformat yr adroddiad yn debyg i’r adroddiadau blaenorol
sydd wedi eu cyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais. Rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd ar
raglenni a prosiectau’r Cynllun Twf. Eglurwyd mai Morlais oedd yr Achos Busnes
Amlinellol cyntaf i gael ei ystyried ai gymeradwyo gan y Bwrdd a nodwyd fod y
broses sicrwydd wedi ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd fod dau Achos
Busnes Amlinellol arall wedi cychwyn y broses gymeradwyo, ac yn cael eu
cyflwyno i’r Bwrdd yn hwyrach yn y cyfarfod.
Nodwyd fod mwyafrif
o’r rhaglenni a prosiectau yn adrodd fel ‘Ambr’ yn yr adroddiad yn dilyn
adolygiad ar yr amserlenni datblygu achosion busnes. Tynnwyd sylw at y pedwar
sydd yn adrodd yn ‘goch’ sef Ffibr Llawn
mewn safleoedd allweddol, Campws Cysylltiedig, Safle Strategol Bodelwyddan a
Porth Caergybi. Eglurwyd eu bod yn adrodd fel ‘coch’ o ganlyniad i risgiau yn
sgôp y prosiectau neu oedi sylweddol yn yr amserlenni.
Mynegwyd fod nifer o
weithgareddau Caffael bellach wedi ei cwblhau a oedd yn cynnwys Astudiaeth i
gefnogi prosiect Coridorau Cysylltiedig. O ran cofrestr risg y portffolio
nodwyd fod y proffil risg y Cynllun yn sefydlog. Amlygwyd fod risg ar fforddiadwyedd wedi cynyddu o ganlyniad i gynnydd sylweddol
mewn costau adeiladu dros y misoedd diwethaf. Eglurwyd fod hyn wedi effeithio
Cytundebau Twf a Threfi eraill ac yn cael ei fonitro. Amlygwyd yn ogystal fod
rhai risgiau sylweddol yn gysylltiedig a rhai prosiectau unigol ynghyd â
diogelu y buddsoddiad sector breifat yn y Cynllun.
Yn ystod y drafodaeth,
codwyd y materion a ganlyn:-
·
Nodwyd
o ran costau adeiladu yn codi yn y misoedd diwethaf amlygwyd yr angen i
amlygu’r problem i’r Llywodraethau cyn i gostau gael eu cadarnhau. Eglurwyd fod
y Llywodraethau yn ymwybodol ac fod y cynllun gyda rhywfaint o fantais gyda
digon o amser cynllunio sydd yn rhoi cyfle i’r farchnad setlo.
·
Holwyd
os ydi statws rhai cynlluniau yn goch, a ddim yn symud i ambr neu wyrdd os oes
angen holi os yw’r cynllun yn hyfyw. Eglurwyd fod y cynlluniau yn hyblyg ac eu
bod yn cael eu datblygu yn unol a parodrwydd ac nid blaenoriaethau.