Alwen Williams, Cyfarwyddwr
Portffolio i ddiweddaru'r Bwrdd Uchelgais ar y gwaith o ddatblygu'r
wefan a'r brand newydd
Penderfyniad:
Cadarnhawyd y brand
newydd arfaethedig ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynllun
Twf Gogledd Cymru yn amodol i addasiadau i’r logo yn dilyn ymgynghoriad gyda’r
aelodau yn y cyfarfod nesaf.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio).
PENDERFYNWYD
Cadarnhawyd y brand newydd arfaethedig ar
gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynllun Twf Gogledd Cymru yn
amodol i addasiadau i’r logo yn dilyn ymgynghoriad gyda’r aelodau yn y cyfarfod
nesaf.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Datblygwyd gwefan a brand cyfredol y Bwrdd
Uchelgais yn ystod dyddiau cynnar sefydlu'r Bwrdd. Gyda'r Cynllun Twf Terfynol
wedi'i lofnodi, a'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn symud i wedd cyflawni
prosiectau'r Cynllun Twf, mae'n amserol diwygio ac ail-lansio'r brand a'r
wefan.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gwefan
a brand gyfredol y Bwrdd Uchelgais wedi ei ddatblygu yn ôl yn nyddiau cynnar
sefydlu’r Bwrdd. Nodwyd gyda’r Cynllun Twf Terfynol wedi’i lofnodi a’r Swyddfa
Rheoli Proffil yn symud i wedd cyflawni eglurwyd ei bod yn amserol diwygio ac
ail-lansio’r brand a’r wefan. Mynegwyd fod y logo wedi dyddio ac nad yw’n
adlewyrchu natur uchelgeisiol y Bwrdd yn nhermau trawsffurfio economi’r
Gogledd. Ategwyd fod y wefan ar hyn o bryd wedi ei letya gan Busnes Cymru ac ei
fod yn profi yn gymhleth i’w ddefnyddio.
Comisiynwyd Tinint i ail-frandio a datblygu
gwefan newydd yn dilyn proses tendro lwyddiannus. Amlygwyd y briff a osodwyd
iddynt i amlygu brand ffres, arloesol, uchelgeisiol a proffesiynol ynghyd â
gwefan a fyddai’n lwyfan i hyrwyddo’r rhanbarth, gwaith y Bwrdd Uchelgais ac i
rannu cynnydd a gwybodaeth am y Cynllun Twf. Cyflwynwyd y brand mae Tinint wedi
gweithio i datblygu gyda’r Swyddfa Rheoli Portffolio, eglurwyd fod yr enw brand
wedi addasu i “Uchelgais Gogledd Cymru / Ambition North Wales” a fydd yn enw
cyffredinol am y Weledigaeth Twf a beth mae’r bwrdd yn ceisio’i i gyflawni ar
gyfer y rhanbarth.
Amlygwyd fod ymchwiliad marchnad wedi ei
gynnal am y logo a’r brand newydd a cafwyd sampl o 160 unigolyn a oedd yn cael
ei rannu i 3 grŵp – Sector Gyhoeddus, Pobl Ifanc a Busnesau. Pwysleisiwyd
mai Uchelgais Gogledd Cymru oedd y brand a ffafriwyd yn yr ymchwil i’r
farchnad. Cyflwynwyd y Brand, lliwiau a logo a ffafriwyd yn ogystal gan ofyn am
gefnogaeth y Bwrdd.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Amlygwyd
cefnogaeth i’r brand ac yr enw ond tynnwyd sylw at broblem gyda’r logo. Nodwyd
er ei fod yn logo haniaethol fod 6 adran iddo fel siroedd y rhanbarth ac fod
Conwy i’w weld yn llai nac eraill. Eglurwyd nad oedd yn cynrychioli hynny ond
awgrymwyd yr angen i ail edrych ar y maint.
·
Dangoswyd
cefnogaeth i’r brand a’r wefan gan nodi ei fod yn amlygu fod y cynllun yn
llawer mwy na Cynllun Twf.
·
Derbyniwyd
mewn egwyddor i’r brand a’r lliwiau. Gofynnwyd i’r Swyddfa Rheoli Portffolio i
fynd yn ôl at Tinint ac efallai addasu’r logo rhyw fymryn ac yna ei ail
gyflwyno i’r Bwrdd ym mis Medi.