Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 11/08/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Canolog (eitem 6)

6 CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 263 KB

Vaynol Arms, Pentir, Bangor, Gwynedd

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Caniatáu’r cais

Cofnod:

CAIS AM DRWYDDED EIDDO VAYNOL ARMS, PENTIR, BANGOR

 

Ymgeisydd                             David Hughes

 

Aelod Lleol                            Cynghorydd Menna Baines

 

Swyddogion:                         Ffion Muscroft (Swyddog Iechyd yr Amgylchedd)

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dr Wyn James a Dr Caroline Lamers (preswylwyr lleol)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Vaynol Arms, Pentir, Bangor sy’n dŷ tafarn a bwyty gydag ardal allanol i’r cefn o’r eiddo. Gwnaed y cais mewn perthynas â chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio ar yr eiddo, chwarae cerddoriaeth byw, lluniaeth hwyr y nos a gwerthu alcohol ar, ac oddi ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod gwrthwynebiadau wedi ei derbyn gan breswylwyr cyfagos yn berthnasol i’r amcanion trwyddedu. Mynegwyd pryderon ar faterion sŵn a chynnydd mewn traffig a materion parcio ac awgrymwyd cwtogi oriau gwerthu alcohol hyd 23:00 yn ystod yr wythnos a Dydd Sul, a hyd 00:00 ar ddyddiau Gwener a Sadwrn.  Derbyniwyd sylwadau gan yr Adran Gwarchod y Cyhoedd yn amlygu pryder ynglŷn ag oriau chwarae cerddoriaeth byw y tu allan. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i dynnu’r cais yma yn ôl a gofyn am gerddoriaeth byw/recordio ar gyfer tu mewn yr eiddo yn unig.

 

Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn caniatau’r cais yn unol â sylwadau Gwarchod y Cyhoedd a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

 Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

           Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu

           Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

           Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

           Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

           Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

           Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·         Bod y busnes wedi bod yn defnyddio rhybuddion digwyddiadau dros dro, ond erbyn hyn eisiau osgoi eu defnyddio

·         Eu bod yn canolbwyntio ar redeg busnes o fwyty yn hytrach na thafarn

·         Bod trwydded flaenorol y dafarn yn caniatau agor hyd at 01:00 – dim bwriad agor hyd 01:00 – staff eisiau mynd adre

·         Gweini bwyd yn gorffen am 20:30

·         Bod yr oriau ar gyfer defnydd achlysurol megis cynnal priodasau a/ neu hybu a chefnogi digwyddiadau cymunedol

·         Wedi cytuno tynnu chwarae cerddoriaeth tu allan o’r cais

·         Ei fod eisiau cydweithio gyda’r gymuned

 

Mewn ymateb i gwestiwn sut y byddai deilydd y drwydded yn tawelu pryderon y gymuned, nododd bod tafarn wedi bod ar y safle ers  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6