7 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS ADRAN AMGYLCHEDD PDF 194 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Gareth Griffith.
PENDERFYNWYD
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn amlygu beth mae’r adran yn ei wneud a
peth yw’r prif heriau sydd yn eu wynebu. Diolchwyd i’r staff am eu holl waith yn
ystod y cyfnod gan fod pwysau ychwanegol wedi rhoi ar rai adrannau yn benodol.
Tynnwyd sylw fod gwaith Cynllun Prosiect Newid Hinsawdd yn mynd rhagddo ac y
bydd adroddiad yn mynd i’r pwyllgor craffu yn fuan.
O ran
cynlluniau eraill eglurwyd fod adroddiad am y cynnydd mewn niferoedd o Gartrefi
Modur yn ymweld ar sir yn dod i’r Cabinet maes o law. Tynnwyd sylw at y
Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd a weithiodd yn ddiwyd i greu’r papur
am ail gartrefi a gyflwynwyd yn ôl ym
mis Rhagfyr. Eglurwyd yn dilyn ei anfon at Lywodraeth Cymru eu bod wedi
comisiynu adroddiad gan Dr Simon Brooks a oedd yn edrych ar y sefyllfa.
Eglurwyd fod yr adran yn parhau i roi pwysau ar y Llywodraeth i ddelio ar
materion, ond nad oedd llawer mwy a gall y Cyngor ei wneud.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
¾ Amlygwyd fod llawer o’r adran
wedi bod yn gweithio i sicrhau gwasanaeth ddigonol dros gyfnod y pandemig. Nodwyd mai dim ond cymal bach iawn sydd i’w weld
am waith y Tîm Olrhain a Diogelu ond fod eu gwasanaeth yn fawr iawn. Eglurwyd
fod heriau sylweddol i’r gwasanaeth yn benodol heddiw gan fod niferoedd yn codi
a nifer o bobl ddim yn awyddus i gael eu galwad. Pwysleisiwyd fod arian ar gael
i’r tîm olrhain tan ddiwedd Mawrth.
¾ Holwyd gyda nifer sy’n defnyddio
cludiant cyhoeddus yn lleihau os y bydd risg i’r gwasanaeth i’r dyfodol.
Eglurwyd ei bod yn her gan fod y Llywodraeth yn awyddus i weld lleihad
mewn nifer yn defnyddio ceir, ond fod y
flwyddyn diwethaf wedi gweld gostyngiad mewn hyder unigolion yn ei ddefnyddio.
Ychwanegwyd fod prinder gyrwyr yn her ychwanegol ond fod cefnogaeth lawn i
sicrhau cludiant gyhoeddus.
¾
Diolchwyd i’r staff am eu gwaith a nodwyd fod yr adran dan
bwysau ac fod effaith 10 mlynedd o doriadau i’r gweld.
Awdur: Dafydd Wyn Williams