9 Cais Rhif C21/0546/00/LL Richmond House, Stryd Fawr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1DW PDF 309 KB
Trosi islawr a llawr isaf yr adeilad yn siop fferm gan
gynnwys bocs hysbysebu pren ar y cwrt flaen.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gethin Glyn Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Caniatáu gydag amodau
COFNODION:
Trosi islawr a llawr isaf yr adeilad
yn siop fferm
gan gynnwys bocs hysbysebu pren ar y cwrt
blaen.
Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn ymwneud
â throsi rhan o islawr a llawr daear yr adeilad
o ddefnydd preswyl i siop fferm. Byddai’r islawr yn cynnwys
dwy storfa ar gyfer y siop,
ystafell baratoi bwyd a thoiled gyda’r siop fferm
wedi ei lleoli
ar y llawr daear. Bydd defnydd
anheddol yn parhau i weddill
yr adeilad. Bydd ffenestr bresennol
ar yr edrychiad
gogledd dwyreiniol yn cael ei
disodli am ddrysau dwbl a blaen siop
bren newydd. Bwriedir fel rhan o’r
datblygiad hefyd osod bocs hysbysebu
pren yng nghwrt blaen yr
eiddo. Nodwyd bod y safle wedi ei
leoli oddi fewn i’r ffin
ddatblygu ac oddi fewn i ddynodiad
canol y dref.
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod yr
ymgeisydd yn Gynghorydd Sir ac yn Aelod Lleol.
Yn unol â Pholisi PS 15 a MAN 1 gwarchodir canol trefi ar gyfer
defnyddiau sydd yn gysylltiedig â chanol trefi megis
defnyddiau manwerthu, masnachol a hamdden cyn belled bod graddfa a math y datblygiad yn briodol
i faint, cymeriad a swyddogaeth y ganolfan a chyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio
a’r meini prawf a restrir yn y Polisi. Ystyriwyd fod
egwyddor y bwriad yn dderbyniol o ran polisi PS 15 a MAN 1 CDLl o ran hyrwyddo bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi a bod yr addasiadau yn cydymffurfio
a gofynion y polisïau perthnasol.
b) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau
1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
2. Unol gyda chynlluniau.
3. Arwyddion Cymraeg a / neu ddwyieithog.