Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 9)

9 Cais Rhif C21/0546/00/LL Richmond House, Stryd Fawr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1DW pdf eicon PDF 309 KB

Trosi islawr a llawr isaf yr adeilad yn siop fferm gan gynnwys bocs hysbysebu pren ar y cwrt flaen. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gethin Glyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu gydag amodau

  1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
  2. Unol gyda chynlluniau.
  3. Arwyddion Cymraeg a / neu ddwyieithog.

Cofnod:

Trosi islawr a llawr isaf yr adeilad yn siop fferm gan gynnwys bocs hysbysebu pren ar y cwrt blaen.

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn ymwneud â throsi rhan o islawr a llawr daear yr adeilad o ddefnydd preswyl i siop fferm.  Byddai’r islawr yn cynnwys dwy storfa ar gyfer y siop, ystafell baratoi bwyd a thoiled gyda’r siop fferm wedi ei lleoli ar y llawr daear. Bydd defnydd anheddol yn parhau i weddill yr adeilad. Bydd ffenestr bresennol ar yr edrychiad gogledd dwyreiniol yn cael ei disodli am ddrysau dwbl a blaen siop bren newydd.  Bwriedir fel rhan o’r datblygiad hefyd osod bocs hysbysebu pren yng nghwrt blaen yr eiddo. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i’r ffin ddatblygu ac oddi fewn i ddynodiad canol y dref. 

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn Gynghorydd Sir ac yn Aelod Lleol.

 

Yn unol â Pholisi PS 15 a MAN 1 gwarchodir canol trefi ar gyfer defnyddiau sydd yn gysylltiedig â chanol trefi megis defnyddiau manwerthu, masnachol a hamdden cyn belled bod graddfa a math y datblygiad yn briodol i faint, cymeriad a swyddogaeth y ganolfan a chyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio a’r meini prawf a restrir yn y Polisi. Ystyriwyd fod egwyddor y bwriad yn dderbyniol o ran polisi PS 15 a MAN 1 CDLl o ran hyrwyddo bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi a bod yr addasiadau yn cydymffurfio a gofynion y polisïau perthnasol.

 

b)    Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD:  Caniatáu gydag amodau

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol gyda chynlluniau.

3.         Arwyddion Cymraeg a / neu ddwyieithog.