6 ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD, DIOGELWCH A LLESIANT PDF 346 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr Adroddiad Blynyddol.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNWYD
Derbyniwyd
yr Adroddiad Blynyddol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod 2021 wedi bod yn heriol iawn o ran Iechyd, Diogelwch
a Llesiant. Amlygwyd gyda’r pandemig, dros nos, fod
pob penderfyniad a oedd yn cael ei wneud i sicrhau diogelwch trigolion a staff
mewn ymateb i’r pandemig. Amlygwyd y gwaith sydd wedi
ei wneud yn ystod y cyfnod megis asesiadau risg, canllawiau a hyfforddiant i
staff ynghyd a asesiadau iechyd. Nodwyd fod ychydig o achosion o covid yn y gwaith wedi bod yn ystod 2020/21 ond eglurwyd
nad oes modd cadarnhau hyn yn bendant ond fod gofyn i adrodd pan fo sail
rhesymol y gallent fod wedi ei ddal yn y gwaith.
Eglurwyd
fod damweiniau yn parhau er fod y pandemig wedi bod
dros y flwyddyn diwethaf. Mynegwyd fod yr adran wedi bod yn edrych ar y cynnydd
mewn anafiadau yn y Gwasanaeth Casglu Gwastraff dros y blynyddoedd diwethaf, ac
amlygwyd bod straen yn un o’r prif resymau dros absenoldebau o fewn y Cyngor.
Eglurwyd fod cwnsela wedi bod ar gael i’r staff yn ôl yr arfer.
Nodwyd er
y flwyddyn anodd fod gwaith da wedi cael ei wneud i edrych ar ôl iechyd a
llesiant staff gan amlygu fod y Cyngor wedi cadw y safon aur yn Fframwaith
Ansawdd Iechyd Genedlaethol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Diolchwyd i staff yr adran am eu gwaith ac eu hymrwymiad llwyr dros y
flwyddyn diwethaf.
¾ Amlygwyd fod llawer o waith wedi
ei wneud i ddelio a llesiant staff dros y flwyddyn diwethaf a diolchwyd i staff
am eu gwaith. Ond holwyd gyda nifer uchel o staff yn parhau i weithio o adref
holwyd sut y byddant yn parhau i ddelio
a llesiant staff. Nodwyd fod cynlluniau yn ei lle i adeiladau ar y gwaith da
swydd wedi ei wneud.
¾ Nodwyd balchder fod yr adran yn
parhau edrych ar y damweiniau sydd yn
digwydd yn benodol yn y maes gwastraff.
Awdur: Geraint Owen