7 ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFLOGAETH PDF 727 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys.
PENDERFYNWYD
Nodi a derbyn y wybodaeth
yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad am y tro cyntaf ers 2019. Nodwyd fod y pandemig
wedi mynd ar draws yr adroddiad diwethaf ond ei bod yn amserol i’r Cabinet
dderbyn adroddiad cyflogaeth. Mynegwyd fod yr adroddiad yn edrych ar broffil y
gweithlu ac yn amlygu prif heriau sy’n wynebu’r Cyngor yn y tymor canol a’r
tymor hir.
Amlygwyd
fod sefyllfa’r Cyngor wedi newid ers dechrau’r pandemig,
gyda arferion gweithio wedi ei addasu ac oblygiadau hynny. Ychwanegwyd o
ganlyniad i weithio adra fod y farchnad recriwtio wedi addasu a bellach fod
modd recriwtio o leoliadau ehangach. Eglurwyd fod ystadegau yn arddangos fod
proffil oedran y Cyngor wedi codi ac fod hyn yn amlygu’r angen i flaenoriaethu
cynllun gweithlu i gynnal gwasanaethau yn y dyfodol.
Tynnwyd
sylw at y problemau recriwtio gofalwyr sydd i’w gweld yn yr Adran Oedolion gan
nodi ei bod yn broblem sydd i’w gweld yn genedlaethol. Eglurwyd fod y
gwasanaeth Adnoddau Dynol yn gweithio gyda’r adran i weld sut y bydd modd gwella’r
sefyllfa.
Mynegwyd
fod lles staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn holl bwysig ac fod y
cynllun wedi parhau drwy gyfnod y pandemig. Wrth
edrych i’r dyfodol nodwyd fod y trefniadau i weithio o adra yma i aros mewn
rhyw ffordd, ac y bydd angen meddwl sut addasu trefniadau gwaith yn y tymor
hir. Mynegwyd fod manteision o weithio o adref ond fod angen parhau i sicrhau
fod anghenion trigolion yn flaenoriaeth.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
¾ Ychwanegodd y Pennaeth Adran fod
y flwyddyn diwethaf pur wahanol . Amlygwyd fod lefel salwch wedi gostwng ac fod
lefel trosiant staff yn ogystal wedi gostwng. Eglurwyd er hyn fod y lefel yn
raddol godi ac fod angen i’r Cyngor barhau i gynllunio gweithlu i gadw a
recriwtio staff.
¾ Pwysleisiwyd fod pwysau sylweddol
ar y gweithlu ac fod pryderon am barhad gwasanaeth yn genedlaethol Mewn ymateb
i gwestiwn am sefyllfa’r Cyngor nodwyd fod cynnydd mewn pwysau gwaith ac fod
effaith trosiant staff i’w gweld mewn rhai meysydd yn benodol ac fod risg o
golli mwy o staff.
¾ Tynnwyd sylw at recriwtio gofalwyr ac ei fod yn sefyllfa bryderus
gan fod unigolion yn cael ei gorfodi i aros yn yr Ysbyty am gyfnod hir o amser
cyn cael dod adref oherwydd prinder gofalwyr. Nodwyd fod y gweithlu sydd yn
gwbl allweddol i’r sir ac fod angen amlygu i’r cyhoedd fod y swyddi rhain yr un
mor bwysig ar maes iechyd.
Awdur: Geraint Owen