Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 28/09/2021 - Y Cabinet (eitem 7)

7 ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFLOGAETH pdf eicon PDF 727 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad am y tro cyntaf ers 2019. Nodwyd fod y pandemig wedi mynd ar draws yr adroddiad diwethaf ond ei bod yn amserol i’r Cabinet dderbyn adroddiad cyflogaeth. Mynegwyd fod yr adroddiad yn edrych ar broffil y gweithlu ac yn amlygu prif heriau sy’n wynebu’r Cyngor yn y tymor canol a’r tymor hir.

 

Amlygwyd fod sefyllfa’r Cyngor wedi newid ers dechrau’r pandemig, gyda arferion gweithio wedi ei addasu ac oblygiadau hynny. Ychwanegwyd o ganlyniad i weithio adra fod y farchnad recriwtio wedi addasu a bellach fod modd recriwtio o leoliadau ehangach. Eglurwyd fod ystadegau yn arddangos fod proffil oedran y Cyngor wedi codi ac fod hyn yn amlygu’r angen i flaenoriaethu cynllun gweithlu i gynnal gwasanaethau yn y dyfodol.

 

Tynnwyd sylw at y problemau recriwtio gofalwyr sydd i’w gweld yn yr Adran Oedolion gan nodi ei bod yn broblem sydd i’w gweld yn genedlaethol. Eglurwyd fod y gwasanaeth Adnoddau Dynol yn gweithio gyda’r adran i weld sut y bydd modd gwella’r sefyllfa.

 

Mynegwyd fod lles staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn holl bwysig ac fod y cynllun wedi parhau drwy gyfnod y pandemig. Wrth edrych i’r dyfodol nodwyd fod y trefniadau i weithio o adra yma i aros mewn rhyw ffordd, ac y bydd angen meddwl sut addasu trefniadau gwaith yn y tymor hir. Mynegwyd fod manteision o weithio o adref ond fod angen parhau i sicrhau fod anghenion trigolion yn flaenoriaeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾     Ychwanegodd y Pennaeth Adran fod y flwyddyn diwethaf pur wahanol . Amlygwyd fod lefel salwch wedi gostwng ac fod lefel trosiant staff yn ogystal wedi gostwng. Eglurwyd er hyn fod y lefel yn raddol godi ac fod angen i’r Cyngor barhau i gynllunio gweithlu i gadw a recriwtio staff.

¾    Pwysleisiwyd fod pwysau sylweddol ar y gweithlu ac fod pryderon am barhad gwasanaeth yn genedlaethol Mewn ymateb i gwestiwn am sefyllfa’r Cyngor nodwyd fod cynnydd mewn pwysau gwaith ac fod effaith trosiant staff i’w gweld mewn rhai meysydd yn benodol ac fod risg o golli mwy o staff.

¾    Tynnwyd sylw at recriwtio gofalwyr ac ei fod yn sefyllfa bryderus gan fod unigolion yn cael ei gorfodi i aros yn yr Ysbyty am gyfnod hir o amser cyn cael dod adref oherwydd prinder gofalwyr. Nodwyd fod y gweithlu sydd yn gwbl allweddol i’r sir ac fod angen amlygu i’r cyhoedd fod y swyddi rhain yr un mor bwysig ar maes iechyd.

Awdur: Geraint Owen