Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 28/09/2021 - Y Cabinet (eitem 11)

11 STRATEGAETH CYLLIDEB 2022/23 pdf eicon PDF 132 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

i.                Cymeradwywyd y drefn ac amserlen ar gyfer llunio Cyllideb 2022/23.

ii.                Nodwyd os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2022/23, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a cronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr, a pwyllo cyn adnabod unrhyw arbedion ychwanegol fydd angen yn ystod haf 2022.

iii.                Derbyniwyd cynnwys yr adroddiad fel Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, tra’n nodi, yn y cyd-destun cyfredol, fod cynllunio ariannol yn hynod heriol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

                  i.         Cymeradwywyd y drefn ac amserlen ar gyfer llunio Cyllideb 2022/23.

                 ii.        Nodwyd os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2022/23, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a cronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr, a pwyllo cyn adnabod unrhyw arbedion ychwanegol fydd angen yn ystod haf 2022.

                iii.        Derbyniwyd cynnwys yr adroddiad fel Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, tra’n nodi, yn y cyd-destun cyfredol, fod cynllunio ariannol yn hynod heriol

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu dros y blynyddoedd fod y Cyngor wedi bod yn ddarbodus ac o ganlyniad mewn sefyllfa well na nifer o awdurdodau eraill  Eglurwyd fod yr adroddiad yn rhoi amlinelliad o’r drefn blynyddol i lunio cyllideb ynghyd a Cynllun Ariannol Tymor Canolig. 

 

Mynegwyd y bydd sawl cais eleni am adnoddau ychwanegol o ganlyniad i bwysau ychwanegol ar adrannau ac y bydd proses bidiau yn cael ei gyflwyno i’r aelodau Cabinet. Atgoffwyd mai Grant Llywodraeth Cymru yw prif ffynhonnell ariannol y Cyngor ac y byddant yn cyflwyno eu setliad drafft yn ystod mis Rhagfyr cyn cyflwyno’r setliad yn nechrau Mawrth. Eglurwyd fod yr amserlen yn un hynod heriol ac fod ansicrwydd ariannol o ganlyniad i’r pandemig.

 

Tywysodd y Pennaeth Adran drwy’r adroddiad gan nodi fod y cyfrifwyr wedi dechrau paratoi amcangyfrifon o wariant yn yr adrannau ar gyfer 2022/23. Pwysleisiwyd y bydd bidiau yn cael ei cyflwyno i’r Cabinet dros y misoedd nesaf er mwyn cyfarch y pwysau ychwanegol fydd ar adrannau.

 

Nodwyd fod yr amserlen yn heriol tu hwnt mewn cyfnod ble mae Covid yn parhau, ond fod sefyllfa gyllidol gadarn y Cyngor a chronfeydd wrth gefn iach yn golygu fod modd cymryd mwy o risg. Tynnwyd sylw at yr heriau a fydd yn wynebu’r Cyngor a oedd yn cynnwys adferiad Covid, cynnydd mewn cyflogau, ynghyd â chynnydd mewn chwyddiant. Eglurwyd fod y setliad wedi cynnwys chwyddiant y llynedd, ond nad oedd hyn yn bendant am eleni.

 

Tynnwyd sylw at rhagdybiaethau sydd wedi ei creu sydd yn amlygu tri senario posib. Pwysleisiwyd ei bod yn anodd proffwydo i’r dyfodol, ond ei bod yn bosib y bydd angen cynllunio ar gyfer rhaglen arbedion yn y dyfodol. Mynegwyd os y bydd bwlch ariannol y flwyddyn nesaf, y buasai modd i'r Cyngor bontio’r bwlch yn 2022/23.

 

Awdur: Dafydd L Edwards