9 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG PDF 784 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams.
PENDERFYNIAD
Nodi a derbyn y
wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei bod yn bleser cyflwyno adroddiad perfformiad yr adran.
Tynnwyd sylw at adroddiad thematig Estyn ar waith yr Awdurdod drwy gydol yn
adroddiad, gan bwysleisio fod yr rhoi golwg annibynnol ar waith yr adran.
Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn positif tu hwnt.
Eglurwyd fod yr
adran wedi cadarnhau arbedion ar gyfer 2021/22 ond fod yr adran wedi tanwario
£100k ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21. Nodwyd fod adolygiad cychwynnol yn
rhagweld tanwariant gan yr Adran erbyn diwedd y flwyddyn sydd yn gyfuniad o
danwariant ar nifer o benawdau sydd yn cael ei leihau gan orwariant ar benawdau
megis Cludiant.
Diolchwyd i’r adran
am eu Gwaith caled a nododd yr aelod Cabinet ei fod yn gwbl hapus gyda’r gwaith
mae’r adran wedi ei wneud mewn cyfnod anodd.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth:
¾
Diolchwyd
am y Cameo’s o adroddiad Estyn drwy’r adroddiad gan
ei fod yn rhoi blas o’r cynlluniau ac
yn cael ei weld drwy lygad y dinesydd.
¾
Nodwyd
balchder fod ysgolion Newydd wedi ei adeiladu
neu cael cyfleusterau gwell yn benodol ym Mangor ac yng Nghricieth,
ac fod hyn yn amlygu y buddsoddiad y Cyngor i’w hysgolion.
¾
Diolchwyd
i staff am y cyfathrebu cyson ar gefnogaeth sydd wedi bod yn yr adran ond yn yr
ysgolion yn ogystal.
Awdur: Debbie Anne Williams Jones