5 ADOLYGIAD ASESIAD RHAGLEN 2021 PDF 349 KB
Adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
(1)
Bod y Bwrdd yn nodi
canfyddiadau Adolygiad Asesiad Rhaglen 2021.
(2)
Bod y Bwrdd yn nodi y bydd yr
adroddiad yn ffurfio rhan o gyflwyniad dyfarniad cyllid blynyddol 2021-22.
(3)
Bod y Bwrdd yn nodi y bydd y
Swyddfa Rheoli Portffolio yn datblygu cynllun gweithredu i gyflawni yn erbyn yr
argymhellion.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio.
PENDERFYNWYD
(1) Bod y Bwrdd yn nodi canfyddiadau Adolygiad
Asesiad Rhaglen 2021.
(2)
Bod y Bwrdd yn nodi y bydd yr adroddiad yn
ffurfio rhan o gyflwyniad dyfarniad cyllid blynyddol 2021-22.
(3) Bod y Bwrdd yn nodi y bydd y Swyddfa Rheoli
Portffolio yn datblygu cynllun gweithredu i gyflawni yn erbyn yr argymhellion.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae'n
ofynnol dan Gytundeb Terfynol y Cynllun Twf bod Cynllun Twf Gogledd Cymru yn
destun adolygiad porth allanol blynyddol o'r portffolio a'r pum rhaglen.
TRAFODAETH
Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.
Gan gyfeirio at
argymhelliad 3 o’r adolygiad, nododd y Swyddog Monitro:-
·
Iddo
gylchredeg nodyn briffio i aelodau’r Bwrdd sydd â phleidlais i’w hatgoffa o’r drefn
ar gyfer penodi dirprwyon.
·
Ei
bod yn debygol y byddai’r cysyniad o fecanwaith “allan o bwyllgor” ar gyfer
cymeradwyo materion brys yn teilyngu adroddiad ar drefn ddirprwyo bellach gan y
Bwrdd, ond bod darpariaeth o fewn GA2 i ehangu’r dirprwyo yn ôl yr angen, cyn
belled â bod y Bwrdd yn fodlon gyda hynny.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Mewn
ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd ei bod yn ofynnol hysbysu’r ddwy Lywodraeth o
unrhyw newidiadau i’r cytundeb o safbwynt hyfywdra’r rhaglenni a’r prosiectau,
gan hefyd ddod â’r penderfyniadau hynny yn ôl i’r Bwrdd i gytuno arnynt. Eglurwyd bod yr Adolygiad Asesiad Rhaglen yn
gofyn i’r Swyddfa Portffolio fod yn ymwybodol y gallai rhai prosiectau droi’n anhyfyw
yn ystod y broses o ddod â’r achosion busnes terfynol at ei gilydd, ac felly y
dylid sganio’r gorwel am brosiectau eraill a allai ddod yn eu blaenau petai
hynny’n digwydd. Fodd bynnag, byddai’n
ofynnol i hynny ddigwydd gyda chymeradwyaeth y Bwrdd.
·
Mewn
ymateb i gwestiwn, eglurwyd ei bod yn bwysig diffinio meini prawf ar gyfer
pennu nad yw prosiect bellach yn hyfyw.
O ran sganio’r gorwel, byddai’n fuddiol cydweithio gyda’r Bwrdd
Portffolio er mwyn deall sut mae hyn yn digwydd a beth yw’r cyfleoedd ar gyfer
prosiectau ar draws yr awdurdodau lleol a allai fod yn addas i’w hystyried pe
na bai cynllun o fewn y portffolio Cynllun Twf yn parhau’n hyfyw. Byddai’n rhaid i hyn oll gael ei gynnwys fel
rhan o’r gwaith o ddod â’r meini prawf hyn at ei gilydd dros y ddau fis nesaf.
·
Nodwyd
ei bod yn bwysig bod y gwaith o sganio’r gorwel yn digwydd yn unol â’r
Weledigaeth Twf a’r 3 egwyddor sylfaenol, sef Gogledd Cymru Blaengar,
Cysylltiedig a Gwydn, ac yn dod yn ôl i’r Bwrdd am drafodaeth wleidyddol. Mewn ymateb, pwysleisiwyd bod ein holl waith
yn seiliedig ar y 3 egwyddor, ac y byddai unrhyw brosiectau yn gorfod cael eu
mesur yn erbyn yr egwyddorion hynny, ynghyd â’u cynaliadwyedd a’u cyfraniad at
economi’r Gogledd.