Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/09/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (eitem 7)

7 NEWID HINSAWDD - ASEDAU ATAL LLIFOGYDD GWYNEDD pdf eicon PDF 314 KB

Aelod Cabinet: Cyng. Catrin Wager

 

Diweddariad ar: Trefniadau monitro cyflwr asedau Gwynedd er mwyn lleihau risgiau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd gan roi trosolwg o sefyllfa’r asedau sydd gan y Cyngor. Ategwyd bod gan y Cyngor asedau Mewndirol ac Arfordirol sy’n cael eu harchwilio o ran cyflwr unwaith y flwyddyn, dwywaith i ambell un.

 

Tynnwyd sylw’r aelodau at gategorïau a ddefnyddiwyd er mwyn adnabod cyflwr yr asedau fel bod modd deall pa rai sydd angen gwaith trin gan eu bod yn dangos straen.

 

Amlinellwyd rhaglen waith yr adran sy’n cwmpasu edrych ar yr holl asedau i sicrhau eu bod mewn cyflwr diogel, a rhoddwyd diweddariad i’r aelodau ar y sefyllfa.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad cynhwysfawr, mynegwyd hyder y bydd y Cyngor yn barod o ran tywydd garw a llifogydd oherwydd y gwaith sydd wedi cael ei gwneud.

-        Holwyd am y drefn archwilio a sut mae’n cael ei benderfynu pa asedau sy’n cael eu monitro a gofynnwyd am syniad o’r amserlen ar gyfer cyflawni’r gwaith. Yn ategol, holwyd os yw’r drefn yn un caeth ynteu oes modd ei haddasu petai ased yn cael ei ddifrodi.

-        Diolchwyd am y gwaith ym Mhenisarwaun a Rhiwlas ers 2017 a rhoddwyd canmoliaeth i’r adran ar y gwaith sydd wedi ei wneud yno.

-        Diolchwyd i’r Pennaeth Adran YGC a’r Aelod Cabinet am eu gwaith.

-        Holwyd beth oedd y Cyngor yn ei gyfrif fel ased gan fod Canolfan Tregarth yn wynebu difrod o ganlyniad i lifogydd ac ategwyd bod y Cyngor yn awyddus i’r gymuned fod yn gyfrifol dros y pibellau.

 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nodwyd y canlynol:-

 

-        Eglurwyd os oes pryder ynghylch ased sydd ddim ar y cynllun i gael sylw mae’n bosib ymweld mwy nag unwaith a bod y mecanwaith yna i wneud gwaith brys os oes angen.

-        Nodwyd o ran Newid Hinsawdd, bod lefelau mor yn codi yn amlygu mwy o asedau sydd efallai angen gwaith trin.

-        O ran diffinio ‘asedau’ yn y modd yma, nododd mai unrhyw ased sy’n gwarchod cymuned rhag llifogydd sy’n cael ei hystyried.

-        Sicrhaodd y Pennaeth y byddai’n codi’r mater efo’r Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol cyn adrodd yn ôl i’r cynghorydd ar ei gwestiwn.