7 NEWID HINSAWDD - ASEDAU ATAL LLIFOGYDD GWYNEDD PDF 314 KB
Aelod Cabinet: Cyng.
Catrin Wager
Diweddariad ar: Trefniadau
monitro cyflwr asedau Gwynedd er mwyn lleihau risgiau.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Bennaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd gan roi
trosolwg o sefyllfa’r asedau sydd gan y Cyngor. Ategwyd bod gan y Cyngor asedau
Mewndirol ac Arfordirol sy’n cael eu harchwilio o ran cyflwr unwaith y
flwyddyn, dwywaith i ambell un.
Tynnwyd sylw’r
aelodau at gategorïau a ddefnyddiwyd er mwyn adnabod cyflwr yr asedau fel bod
modd deall pa rai sydd angen gwaith trin gan eu bod yn dangos straen.
Amlinellwyd
rhaglen waith yr adran sy’n cwmpasu edrych ar yr holl asedau i sicrhau eu bod
mewn cyflwr diogel, a rhoddwyd diweddariad i’r aelodau ar y sefyllfa.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-
-
Diolchwyd am yr adroddiad cynhwysfawr, mynegwyd
hyder y bydd y Cyngor yn barod o ran tywydd garw a llifogydd oherwydd y gwaith
sydd wedi cael ei gwneud.
-
Holwyd am y drefn archwilio a sut mae’n cael ei
benderfynu pa asedau sy’n cael eu monitro a gofynnwyd am syniad o’r amserlen ar
gyfer cyflawni’r gwaith. Yn ategol, holwyd os yw’r drefn yn un caeth ynteu oes
modd ei haddasu petai ased yn cael ei ddifrodi.
-
Diolchwyd am y gwaith ym Mhenisarwaun
a Rhiwlas ers 2017 a rhoddwyd canmoliaeth i’r adran ar y gwaith sydd wedi ei
wneud yno.
-
Diolchwyd i’r Pennaeth Adran YGC a’r Aelod Cabinet
am eu gwaith.
-
Holwyd beth oedd y Cyngor yn ei gyfrif fel ased gan
fod Canolfan Tregarth yn wynebu difrod o ganlyniad i lifogydd ac ategwyd bod y
Cyngor yn awyddus i’r gymuned fod yn gyfrifol dros y pibellau.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nodwyd y canlynol:-
-
Eglurwyd os oes pryder ynghylch ased sydd ddim ar y
cynllun i gael sylw mae’n bosib ymweld mwy nag unwaith a bod y mecanwaith yna i
wneud gwaith brys os oes angen.
-
Nodwyd o ran Newid Hinsawdd, bod lefelau mor yn
codi yn amlygu mwy o asedau sydd efallai angen gwaith trin.
-
O ran diffinio ‘asedau’ yn y modd yma, nododd mai
unrhyw ased sy’n gwarchod cymuned rhag llifogydd sy’n cael ei hystyried.
-
Sicrhaodd y Pennaeth y byddai’n codi’r mater efo’r
Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol cyn adrodd yn ôl i’r cynghorydd ar ei
gwestiwn.